Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

 

 

(09.15-10.15)

2.

Sesiwn graffu ar TB Buchol gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol - Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion a ganlyn i’r cyfarfod: Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig; Christianne Glossop, y Prif Swyddog Milfeddygol; Tim Render, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a Materion Gwledig; a Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a’r Môr.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ysgrifenedig yn amlinellu'r meini prawf sydd ynghlwm wrth y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i farchnadoedd da byw at ddibenion uwchraddio cyfleusterau sy'n darparu gwybodaeth am dda byw.

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar achosion o TB buchol o gymharu â maint y fuches.

 

 

 

(10.15-11.15)

3.

Sesiwn graffu gyffredinol gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol - Llywodraeth Cymru

Tim Render, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a Materion Gwledig - Llywodraeth Cymru

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a’r Môr - Llywodraeth Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn yn amlinellu’r 10 maes yn ei phortffolio Gweinidogol lle ceir fframweithiau cyffredin anneddfwriaethol.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn yn cynnwys gwybodaeth bellach am 'sbwriel pysgodfeydd'.

3.3 Cytunodd y Gweinidog i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â'r Pwyllgor am roi’r Cynllun Datblygu Gwledig ar waith.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6

Cofnodion:

4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6.

 

 

(11.15-11.30)

5.

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3, gan nodi materion allweddol i‘w trafod ymhellach gyda'r Gweinidog.

 

 

(11.30-12.00)

6.

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) a chytunodd arno, yn amodol ar fân newid.