Tuberculosis mewn gwartheg yng Nghymru
Ar ôl cyhoeddi dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘Strategaeth
o’r newydd ar gyfer Dileu TB’, penderfynodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gynnal ymchwiliad byr i edrych ar
effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol ac ystyried cyfeiriad
polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Diben yr ymchwiliad oedd:
- asesu’r dystiolaeth y tu ôl i’r dulliau
rheoli a dileu a nodir yn rhaglen dileu TB gwartheg newydd Llywodraeth
Cymru drwy gymharu â’r dulliau a ddefnyddir y tu allan i Gymru; ac
- asesu a oes digon o drefniadau monitro a
gwerthuso ar waith i sicrhau y gellir dangos effeithiolrwydd y rhaglen a
gwerth am arian yn y dyfodol.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan randdeiliaid yn
ei gyfarfod ar 10 Tachwedd 2016 ac
ar 8 Rhagfyr 2016. Cynhaliodd
y Pwyllgor sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2016.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Adroddiad
ar y rhaglen o’r newydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Dileu TB (PDF 890KB)
ar 23 Mai 2017 ac ymatebodd
(91KB) Llywodraeth Cymru ar 20 Mehefin 2017.
Math o fusnes: Arall
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/01/2017
Dogfennau
- Ymateb Llywodraeth Cymru oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
PDF 91 KB Gweld fel HTML (1) 36 KB
- Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - 23 Mai 2017
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabiner dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch difa moch daear - 17 Mai 2017
PDF 805 KB
- Gohebiaeth gan y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch cynigion ar gyfer difa moch daear - 10 Mai 2017
PDF 90 KB
- Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllfor Deisebau (Saesneg yn unig) - 13 Ebrill 2017
PDF 167 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig - 19 Rhagfyr 2017
PDF 179 KB
- Gohebiaeth gan Adam Price AC at Ysgrifennydd y Cabiner dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig - 15 Mawrth 2017
PDF 966 KB