Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 10/07/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15-09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.30-11.00) |
Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Newid Hinsawdd Lesley
Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Simon
Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd - Llywodraeth Cymru Jonathan
Oates, Pennaeth Twf Glân - Llywodraeth Cymru Lucy
Corfield, Pennaeth Datgarboneiddio – Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau. 2.2
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Gweinidog ymateb yn ysgrifenedig i gwestiynau craffu
na ofynnwyd yn ystod y sesiwn hon oherwydd cyfyngiadau amser. 2.3
Gofynnodd y Cadeirydd am gael rhagor o amser i sesiynau craffu gyda’r Gweinidog
yn y dyfodol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 4, 5, 6 a 7 Cofnodion: 3.1
Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4, 5, 6 a 7 o’r
cyfarfod heddiw. |
||
Blaenraglen Waith - Trafod y dull gweithredu ar gyfer craffu ar Fil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) Cofnodion: 4.1 Bu’r
Pwyllgor yn ystyried y dull o graffu ar Fil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau
(Cymru) a chytunodd arno. |
||
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol - y wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio a’r dull gweithredu ar gyfer trafod y Fframwaith Cofnodion: 5.1
Ystyriodd y Pwyllgor y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a chytunodd i’w ystyried
ymhellach yn nhymor yr hydref. |
||
Trafod y Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer Cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru Cofnodion: 6.1
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gwrandawiad cyn penodi gyda Chadeirydd newydd
Cyfoeth Naturiol Cymru yn nhymor yr hydref. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiad y Pwyllgor yn Sioe Frenhinol Cymru Cofnodion: 7.1 Cafodd
yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf
ar ddigwyddiad y Pwyllgor yn Sioe Frenhinol Cymru. |