Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/07/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15-09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

 

(09.30-11.00)

2.

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Newid Hinsawdd

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd - Llywodraeth Cymru

Jonathan Oates, Pennaeth Twf Glân - Llywodraeth Cymru

Lucy Corfield, Pennaeth Datgarboneiddio – Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau.

2.2 Gofynnodd y Cadeirydd i’r Gweinidog ymateb yn ysgrifenedig i gwestiynau craffu na ofynnwyd yn ystod y sesiwn hon oherwydd cyfyngiadau amser.

2.3 Gofynnodd y Cadeirydd am gael rhagor o amser i sesiynau craffu gyda’r Gweinidog yn y dyfodol.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 4, 5, 6 a 7

Cofnodion:

3.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4, 5, 6 a 7 o’r cyfarfod heddiw.

 

4.

Blaenraglen Waith - Trafod y dull gweithredu ar gyfer craffu ar Fil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dull o graffu ar Fil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) a chytunodd arno.

 

5.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol - y wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio a’r dull gweithredu ar gyfer trafod y Fframwaith

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a chytunodd i’w ystyried ymhellach yn nhymor yr hydref.

 

6.

Trafod y Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer Cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gwrandawiad cyn penodi gyda Chadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn nhymor yr hydref.

 

7.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiad y Pwyllgor yn Sioe Frenhinol Cymru

Cofnodion:

7.1 Cafodd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf           ar ddigwyddiad y Pwyllgor yn Sioe Frenhinol Cymru.