Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/05/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC. |
|
(09.30-10.30) |
Rhandiroedd: sesiwn dystiolaeth gyda gweinyddwyr rhandiroedd Paul Egan,
Dirprwy Brif Weithredwr a Rheolwr Adnoddau - Un Llais Cymru Peter
Newton, Swyddog Polisi, Datblygu ac Arloesi - Cyngor Tref Penarth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Paul Egan, Dirprwy Bennaeth a Rheolwr Adnoddau, Un
Llais Cymru; Peter Newton, Swyddog Arloesi a Datblygu Polisi, Cyngor Tref
Penarth; Lee Davies, Rheolwr Amwynderau, Cyngor Tref y Drenewydd a
Llanllwchaearn; a Neville Rookes, Swyddog Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru. |
|
(10.40-11.30) |
Rhandiroedd: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gymdeithas Genedlaethol Rhandiroedd Judith
Hill, Cynrychiolydd Rhanbarthol Cymru - Cymdeithas Genedlaethol Rhandiroedd Cofnodion: 3.1 Cafodd
y Pwyllgor ymddiheuriadau gan Judith Hill, Cynrychiolydd Rhanbarthol Cymru, y
Gymdeithas Rhandiroedd Genedlaethol, a oedd yn methu â bod yn bresennol yn y
cyfarfod. |
|
(11.30-11.35) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 4 Nododd y
Pwyllgor y papurau. |
|
Gohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru at y Cadeirydd yn dilyn y sesiwn graffu flynyddol ar 13 Chwefror Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn ag ymchwiliad dilynol y Pwyllgor i reoli Ardaloedd Gwarchodedig Morol yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan NFU Cymru ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Hybu Cig Cymru ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Dr Ludivine Petetin a Dr Mary Dobbs ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dilyn y sesiwn graffu flynyddol ar 27 Mawrth Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 6, 7 ac 8 Cofnodion: 5.1
Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 6, 7 ac 8 o'r
cyfarfod heddiw. |
||
Lleihau gwastraff plastig: trafod adroddiad drafft y Pwyllgor Cofnodion: 6.1
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau. |
||
Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i aros nes bod
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol pellach yn cael eu gosod cyn llunio
unrhyw adroddiad atodol. |
||
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y
Bil Amaethyddiaeth. Bydd y Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft yn ei
gyfarfod ar 22 Mai. |