Gwaith dilynol ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig
Ym mis Awst 2017, cyhoeddodd
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd
a Materion Gwledig ei adroddiad, Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i
ddull Llywodraeth Cymru o Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Gwnaeth yr
adroddiad nifer o argymhellion ynghylch yr angen i gynyddu adnoddau ar gyfer
rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig; sefydlu partneriaeth gwyddoniaeth morol;
cynyddu ymwybyddiaeth o rôl Ardaloedd Morol Gwarchodedig; a chreu strategaeth
gorfodi yn seiliedig ar risg.
Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig
Cymru 2018-2023 a Chynllun
Gweithredu Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru 2018-2019.
Roedd y Pwyllgor yn awyddus i asesu'r cynnydd a wnaed gan
Lywodraeth Cymru wrth fwrw ymlaen â'r argymhellion yn ein hadroddiad, ac wrth
gyflwyno Cynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig
2018-19.
Casglu tystiolaeth
Gwnaeth y Pwyllgor ymgynghori ar y pwnc hwn ac mae'r
ymatebion wedi cael eu cyhoeddi.
Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda
rhanddeiliaid i lywio ei waith ar 22
Mai 2019 a 6
Mehefin 2019.
Adroddiad
Cyhoeddodd
(PDF 1523KB) y Pwyllgor ei adroddiad ar Gynnydd Llywodraeth Cymru o ran rheoli
Ardaloedd Morol Gwarchodedig ar 14 Tachwedd 2019. Ymatebodd
(581 KB) Llywodraeth Cymru ar 8 Ionawr 2020.
Ymgynghoriad
Gwaith
dilynol ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru (Wedi ei
gyflawni)
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/03/2019
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig - 14 Tachwedd 2019
- Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor - 8 Ionawr 2020
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 14 Tachwedd 2019
PDF 177 KB
- Gohebiaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) - 10 Mehefin 2019
PDF 415 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 17 Ebrill 2019
PDF 1 MB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Maetrion Gwledig - 12 Mawrth 2019
PDF 119 KB