Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/07/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

(09.15 - 10.45)

2.

Ymchwiliad i dai carbon isel: yr her

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Prys Davies, Is-adran Datgarboneiddio ac Ynni

Lisa Dobbins, Pennaeth a Datgarboneiddio Tai, Yr Is-adran Cartrefi a Lleoedd

Francois Samuel, Rheoliad Adeiladu, Is-adran Gynllunio

Kevin Hammet, Uwch Swyddog Datgarboneiddio Tai

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a'r Gweinidog Tai ac Adfywio gwestiynau gan Aelodau. 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi mwy o wybodaeth i'r Pwyllgor am Grŵp Alinio Adeiladu Llywodraeth Cymru.

 

 

(11.00 - 12.00)

3.

Ymchwiliad i effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru: sesiwn ragarweiniol

Yr Athro Richard Barnes, Prifysgol Hull

Griffin Carpenter, New Economics Foundation

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd yr Athro Richard Barnes a Griffin Carpenter gwestiynau gan Aelodau ynghylch effaith Brexit ar ddiwydiant pysgota Cymru a Phapur Gwyn Llywodraeth y DU ar bysgodfeydd, 'Sustainable Fisheries for Future Generations'.

 

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad byr y Pwyllgor ar y Cynllun Morol Cenedlaethol drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papur.

 

4.2

Llythyr gan Lywodraeth Cymru ynghylch Cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2018-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papur.

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.30)

6.

Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i lunio adroddiad ar yr ymchwiliad 'Tai carbon isel: yr her' cyn toriad yr haf.