Effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru

Effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad i’r prif heriau a chyfleoedd i bysgodfeydd yn ystod y cyfnod pontio ac ar ôl Brexit a’r graddau y mae polisïau pysgodfeydd presennol a mesurau rheoli ehangach Cymru yn cyflwyno’r canlyniadau a ddymunir.

 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi.

 

Adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Effaith Brexit ar Bysgodfeydd yng Nghymru (PDF 766KB) ar 16 Hydref 2018. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF 197KB) ym mis Tachwedd 2018 a rhoddodd ymateb pellach (PDF 268KB) ar 7 Chwefror 2019.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/05/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau