Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS.

(14.15-15.30)

2.

Gwaith gwaddol: Newid hinsawdd - sesiwn dystiolaeth 1

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Deben, Cadeirydd – Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Deben, Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd.

(15.45-16.45)

3.

Gwaith gwaddol: Newid hinsawdd - sesiwn dystiolaeth 2

Haf Elgar, Cyfarwyddwr - Cyfeillion y Ddaear Cymru

Alexander Phillips, Swyddog Polisi ac Eirioli - Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gyfeillion y Ddaear Cymru a Chronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru.

(16.45)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1Cafodd y papurau eu nodi.

4.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â gwaith gwaddol y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Fframweithiau Cyffredin y DU

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Rheoliadau (Diwygio) Organig 2021

Dogfennau ategol:

4.5

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021, a Rheoliadau (Diwygio) Organig 2021

Dogfennau ategol:

4.6

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â’r rheoliadau drafft ar newid hinsawdd

Dogfennau ategol:

4.7

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch cynlluniau amddiffyn yr arfordir

Dogfennau ategol:

(16.45)

5.

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

6.

Gwaith gwaddol: Newid hinsawdd - trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3.