Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/01/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS.

(13.45-14.45)

2.

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd

Syr David Henshaw, Cadeirydd – y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Peter Davies - Aelod o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)

Tim Peppin - Aelod o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd

(Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)

Sue Pritchard - Aelod o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd

(Y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad)

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd ac aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd.

(15.00-16.00)

3.

Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon – sesiwn dystiolaeth 2

Aled Jones, Dirprwy Lywydd - Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru 

Dr Nick Fenwick, Pennaeth Polisi - Undeb Amaethwyr Cymru

Catherine McLaughlin, Cadeirydd - Cynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaeth Mewn Amaethyddiaeth (RUMA)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru; Undeb Amaethwyr Cymru; a Chynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaeth Mewn Amaethyddiaeth (RUMA).

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

4.1

Gohebiaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Dogfennau ategol:

(16.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

6.

Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2.

7.

Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3.

8.

Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd, ac yn amodol ar fân newidiad, cytunodd arno.

9.

Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.