Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/07/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor a chafwyd ymddiheuriadau
gan Neil Hamilton AS. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
|
(09.15-10.00) |
Sesiwn dystiolaeth: Cyfoeth Naturiol Cymru: effaith cyllideb atodol Llywodraeth Cymru Syr David
Henshaw, Cadeirydd – Cyfoeth Naturiol Cymru Clare Pillman, Prif
Weithredwr – Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Syr David Henshaw a Clare Pillman, Cyfoeth Naturiol
Cymru. |
|
(10.05-10.50) |
COVID-19: Sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths
AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco
Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr Christianne
Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol John Howells,
Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio Dean Medcraft,
Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Tim Render,
Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Bu’r Aelodau
yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am
Covid-19 a’i effaith ar y sectorau amaethyddiaeth a physgodfeydd, cyflenwi bwyd
a lles anifeiliaid, ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig. |
|
(10.55-11.40) |
COVID-19: Parhau gyda sesiwn graffu Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths
AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco
Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr Christianne
Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol John Howells, Cyfarwyddwr
Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio Dean Medcraft,
Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Tim Render,
Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd Cofnodion: 4.1 Parhaodd yr Aelodau i holi Gweinidog yr Amgylchedd,
Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion. |
|
(11.45 - 12.15) |
COVID-19:Sesiwn dystiolaeth: Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Steve Hughson,
Prif Weithredwr – Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Nicola Davies,
Is-gadeirydd y Cyngor - Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Nicola Davies a Steve Hughson, Cymdeithas Amaethyddol
Frenhinol Cymru. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: 6.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
||
Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU 2019-21 Dogfennau ategol: |
||
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU 2019-21 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Reoliadau Newid Hinsawdd (Cymru) 2018 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Ailfeddwl am fwyd a diod yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1Derbyniwyd y
cynnig. |
||
Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2, 3, 4 and 5 Cofnodion: 8.1Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn
ystod eitemau 2,3,4 a 5. 8.2 Cytunwyd yr
Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r
materion a godwyd yn ystod y sesiwn graffu. |
||
Trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: 9.1 Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref. |