Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 705KB) Gweld fel HTML (170KB)

(10.30-10.40)

1.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Cytunodd yr aelodau ar flaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor y gwanwyn 2017.

 

(10.40-11.30)

2.

Ymchwiliad i ddyfodol polisïau amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru - trafod y dystiolaeth ysgrifenedig.

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y crynodeb o’r ymatebion ysgrifenedig i’r ymchwiliad.

 

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

(11.30-12.30)

4.

Twbercwlosis mewn Gwartheg - craffu ar waith Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Yr Athro Christianne Glossop, Prif Filfeddyg Cymru

Martin Williams, Pennaeth yr Uned Biotechnoleg ac Iechyd Planhigion

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd Aelodau dystiolaeth ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran dileu twbercwlosis mewn gwartheg yng Nghymru.

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi rhagor o wybodaeth am wariant Llywodraeth Cymru ar y rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg.

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ateb rhagor o gwestiynau’n ysgrifenedig ar ddefnyddio maglau yng Nghymru ac i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor am y gweithdy i randdeiliaid a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd.

Cytunodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am y dadansoddiad o’r dystiolaeth o ran lledaeniad TB mewn gwartheg o ganlyniad i aflonyddu ar fywyd gwyllt. Cytunodd hefyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y parth clustogi dau cilomedr o amgylch safleoedd difa yn Lloegr.

 

 

 

5.

Papur(au) i’w nodi

5.1

Rhagor o wybodaeth gan y Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Nododd yr Aelodau y papurau.

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(12.30-13.00)

7.

Twbercwlosis mewn gwartheg yng Nghymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

 

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.