Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 26/11/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg 1.2 Yn unol
â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y
cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y
cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3
Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi’n gadael y cyfarfod
am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol
Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Hefin David AS. Roedd Jack Sargeant AS yn dirprwyo ar ei
ran. |
|
(09.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 3. Cofnodion: 2.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09.15 - 10.45) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 3.1
Trafododd yr Aelodau benodau o’r adroddiad drafft. Byddai’r adroddiad drafft yn
cael ei ystyried eto mewn cyfarfod ffurfiol preifat ddydd Llun 30 Tachwedd. |
|
(11.00 - 12.15) |
Covid-19: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r
Gymraeg Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp, Sgiliau, Addysg Uwch a
Dysgu Gydol Oes Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl,
Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i Niwed Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Iechyd Meddwl,
Llesiant a’r Gymraeg. 4.2
Cytunodd y Gweinidog Addysg i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y gallu a’r
cynlluniau sydd ar waith ar gyfer profi myfyrwyr prifysgol cyn iddynt ddod
adref dros gyfnod y Nadolig ar gyfer pob sefydliad yng Nghymru. |
|
(12.15) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Gyfarwyddwr Interim Nyrsio a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Lywodraeth Cymru ynghylch y cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant dysgwyr Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch effaith Covid-19 ar ddysgu ac addysgu o bell Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch effaith Covid-19 ar ddysgu ac addysgu o bell Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Deiseb P-05-1024 Er mwyn i ymwybyddiaeth amgylcheddol gael ei gwneud yn orfodol ac yn fodiwl allweddol o fewn Ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Gweinidog Addysg ynghylch penodi Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Dogfennau ategol: |
||
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer y cyfarfod cyfan ar 30 Tachwedd. Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.15 - 12.30) |
Covid-19 – trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Bu’r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol. 7.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ei farn. |