Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig: Drafft
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 24/09/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros
Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
|
(09.15 - 10.15) |
Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6 gyda chynrychiolwyr undebau penaethiaid ysgolion Eithne Hughes,
Cyfarwyddwr - Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Cymru) Laura Doel, Cyfarwyddwr
– Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ASCL a NAHT. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu gyda'r cwestiynau na
chawsant eu gofyn. |
|
(10.25 - 11.25) |
Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 7 gyda chynrychiolwyr undebau athrawon Rebecca Williams,
Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi - Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) Neil Butler, Swyddog Cenedlaethol Cymru – Cymdeithas Genedlaethol yr
Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau Mary
van den Heuvel, Uwch Swyddog
Polisi Cymru - Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Undeb Addysg
Cenedlaethol, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau ac
UCAC. 3.2 Cytunodd NASUWT i ddarparu nodyn ar amserlenni
realistig y maen nhw’n eu rhagweld ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd. |
|
(11.25) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio at Gadeirydd pob Pwyllgor ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch Addysg Heblaw yn yr Ysgol Dogfennau ategol: |
||
(11.25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.25 - 11.35) |
Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiynau blaenorol. |
|
(11.35 - 12.00) |
Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Gwaith dilynol: trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Derbyniwyd
yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau. |