Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 28/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau; ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09:00 - 11:00) |
Sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Carla Lyne, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Steve Vincent, Diprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran
Effeithiolrwydd Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet. 2.2
Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol: ·
Nodyn ar yr achosion busnes a gyflwynwyd gan awdurdodau
lleol ar gyfer yr elfen Refeniw gwerth £16 miliwn o'r cyllid i leihau maint
dosbarthiadau babanod a sut y mae'r rhain yn cymharu â'r symiau a ddyrannwyd. ·
Nodyn ar y dadansoddiad o'r dyraniad o elfen Gyfalaf y
cyllid. ·
Nodyn ar delerau ac amodau elfennau Refeniw a Chyfalaf y
cyllid i leihau maint dosbarthiadau babanod. ·
Ffigurau ar faint o ddosbarthiadau babanod sydd â mwy na
25 o ddisgyblion ar hyn o bryd a faint a fydd ar ôl cyfnod y cyllid ymrwymedig. ·
Nodyn ar faint o ddisgyblion fydd
yn elwa ar fod mewn dosbarth llai o ganlyniad i'r cyllid. ·
I ddiweddaru'r Pwyllgor ar y dogfennau diweddaraf sydd ar
gael ar gynnwys y cwricwlwm wrth iddo ddod i'r amlwg. ·
I ddarparu copïau o'r asesiadau effaith a wnaed
ynglŷn â phenderfyniadau i newid y ffordd y caiff cefnogaeth i blant
Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr ei chyllido. ·
Nodyn ar sefyllfa'r gwasanaethau addysg teithwyr ledled
Cymru. |
|
(11:00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Llythyr oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – Sefyllfa’r Gymraeg mewn rhaglenni prentisiaeth yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan Cwlwm yn dilyn y cyfarfod ar 24 Mai Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan Estyn yn dilyn y cyfarfod ar 6 Mehefin Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg – y cynnig gofal plant Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl' Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth grŵp derbyniadau hyblyg i ysgolion Cymru – Polisi Derbyniadau i Ysgolion Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Dileuniad P-05-751 Cydnabod Achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20 Dogfennau ategol: |
||
(11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod ar 4 Gorffennaf. Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11:10 - 11:20) |
Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn. Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am ragor o wybodaeth am rai materion
penodol. |
|
(11:20 - 12:10) |
Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) - Trafod y prif faterion Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y prif faterion. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei
drafod yn y cyfarfod nesaf. |
|
(12:10 - 12:55) |
Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion – ystyried yr adroddiad drafft Cofnodion: 7.1 Nid
oedd digon o amser i drafod yr eitem hon. Cytunodd yr Aelodau i'w rhoi ar yr
agenda ar gyfer cyfarfod yr wythnos nesaf. |