Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 28/09/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon
Passmore AS. |
|
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (9 Medi 2020) Dogfennau ategol: |
||
(09.30-09.40) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papur a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn
anfon y llythyr at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn am gadw golwg ar y
materion sydd wedi’u cynnwys yn y llythyr. |
|
(09:40 - 09:50) |
Effeithlonrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-19-20 Papur
1 – Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Ystyriodd a nododd yr Aelodau Ymateb Llywodraeth Cymru
i adroddiad y Pwyllgor. 3.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru i ofyn am ymrwymiadau cliriach, amserlenni priodol a chyfres o
gamau mesuradwy mewn perthynas ag Argymhellion 5, 6 a 7. |
|
(09.50-11.20) |
Gwella Ffordd yr A465 – Adran 2 Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd PAC(5)-17-20 Papur 2 – Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-17-20 Papur 3 – Papur gan Lywodraeth Cymru Andrew Slade -
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru Simon Jones – Cyfarwyddwr
Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru Andy Falleyn –
Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi Seilwaith, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Holodd y Pwyllgor y tystion ar wella ffordd yr A465 –
Adran 2. 4.2 Cytunodd Llywodraeth Cymru i anfon manylion pellach
am nifer o faterion a godwyd. |
|
(11.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.20 - 12:15) |
Gwella Ffordd yr A465 – Adran 2 Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |