Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/09/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

 

2a

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (9 Medi 2020)

Dogfennau ategol:

(09.30-09.40)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn anfon y llythyr at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn am gadw golwg ar y materion sydd wedi’u cynnwys yn y llythyr.

 

(09:40 - 09:50)

3.

Effeithlonrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-19-20 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd a nododd yr Aelodau Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor.

3.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymrwymiadau cliriach, amserlenni priodol a chyfres o gamau mesuradwy mewn perthynas ag Argymhellion 5, 6 a 7.

 

(09.50-11.20)

4.

Gwella Ffordd yr A465 – Adran 2 Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

PAC(5)-17-20 Papur 2 – Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-17-20 Papur 3 – Papur gan Lywodraeth Cymru

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru

Andy Falleyn – Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi Seilwaith, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Holodd y Pwyllgor y tystion ar wella ffordd yr A465 – Adran 2.

4.2 Cytunodd Llywodraeth Cymru i anfon manylion pellach am nifer o faterion a godwyd.

 

(11.20)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.20 - 12:15)

6.

Gwella Ffordd yr A465 – Adran 2 Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.