Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/07/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau |
|
(13.30 - 15.00) |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: effeithiau ar Lywodraeth Cymru Papur briffio gan
wasanaeth ymchwil y Senedd Shan Morgan –
Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall
- Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru Andrew Slade - Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Gawain Evans – Cyfarwyddwr
Cyllid, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys –
Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru David Richards – Cyfarwyddwr
Llywodraethu, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Holodd y Pwyllgor Shan Morgan – yr Ysgrifennydd
Parhaol yn Llywodraeth Cymru, Dr Andrew Goodall, Andrew Slade, Andrew Jeffreys,
Gawain Evans a David Richards fel rhan o’i ymchwiliad i COVID-19 ar yr
effeithiau ar Lywodraeth Cymru. 2.3 Dywedodd y
Cadeirydd wrth yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n ysgrifennu ati gyda’r meysydd
holi na chyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 4, 5 a 6 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.00 - 15.30) |
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(15.30 - 15.45) |
Adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Sicrhau bod grantiau datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian Papur briffio gan
wasanaeth ymchwil y Senedd PAC(5)-15-20
Papur 1 – Adroddiad
gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Sicrhau gwerth am arian o grantiau datblygu
gwledig a roddir heb gystadleuaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Archwilydd Cyffredinol
Cymru: Sicrhau bod grantiau
datblygu gwledig a ddyfarnwyd heb gystadleuaeth yn rhoi gwerth am arian, a
chytunodd i gynnal ymchwiliad byr. |
|
(15.45 - 16.15) |
Blaenraglen waith: Trafod y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2020 PAC(5)-15-20
Papur 2 – Rhaglen waith tymor yr hydref 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Ystyriodd a thrafododd yr Aelodau eu blaenoriaethau o
ran blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2020. Yn dilyn y
drafodaeth hon, bydd y clercod yn paratoi papur arall i’w drafod yn y cyfarfod
nesaf. |