Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd Gareth Bennett AC i'r Pwyllgor yn dilyn ei etholiad ar 25 Mehefin.

 

(13.20 - 15.20)

2.

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i Fusnesau: Sesiwn Dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio

PAC(5)-17-19 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Duncan Hamer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Busnes, Llywodraeth Cymru

Jonathon Hopkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Masnach a Chaffael, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol; Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau a Duncan Hamer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Busnes o Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i Fusnesau.

2.1 Cytunodd Andrew Slade i anfon rhagor o wybodaeth am nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 

(15.20)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 4 & 5 ac Eitem 1 y cyfarfod a gynhelir ar 8 Gorffennaf 2019

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.20 - 15.45)

4.

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i Fusnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law

 

(15.45 - 16.30)

5.

Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-17-19 Papur 2 – Adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a nodwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor ar 8 Gorffennaf i'w thrafod ymhellach.