Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor. 1.2
Croesawodd
y Cadeirydd Gareth Bennett AC i'r Pwyllgor yn dilyn ei etholiad ar 25 Mehefin. |
|
(13.20 - 15.20) |
Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i Fusnesau: Sesiwn Dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur briffio PAC(5)-17-19 Papur 1 – Llywodraeth Cymru Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi,
Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth
Cymru Duncan Hamer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Busnes, Llywodraeth
Cymru Jonathon Hopkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Masnach a Chaffael,
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol,
Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol; Sioned Evans, Cyfarwyddwr,
Busnes a Rhanbarthau a Duncan Hamer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Busnes o Lywodraeth
Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i Fusnesau. 2.1
Cytunodd Andrew Slade i anfon rhagor o wybodaeth am nifer o bwyntiau a godwyd
yn ystod y sesiwn dystiolaeth. |
|
(15.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 4 & 5 ac Eitem 1 y cyfarfod a gynhelir ar 8
Gorffennaf 2019 Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.20 - 15.45) |
Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru i Fusnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 4.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law |
|
(15.45 - 16.30) |
Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-17-19 Papur 2 – Adroddiad Drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Trafododd
yr Aelodau yr adroddiad drafft a nodwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei
chyflwyno i'r Pwyllgor ar 8 Gorffennaf i'w thrafod ymhellach. |