Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC. Ni chafwyd dirprwy ar eu rhan. |
|
(13.30) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: |
|
Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Mawrth 2019) Dogfennau ategol: |
||
Cyfoeth Naturiol Cymru: Diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar weithrediad argymhellion yr adroddiad (Ebrill 2019) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli meddyginiaethau: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (Ebrill 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.35 - 13.45) |
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Ystyried ymateb Llywodraeth Cymru PAC(5)-11-19 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Trafododd yr Aelodau yr ymateb a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i
gael copi o'r adroddiad ar yr hyn a ddysgwyd y cyfeiriwyd ato yn yr ymateb. |
|
(13.45 - 15.15) |
Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur briffio PAC(5)-11-19 Papur 2 – Papur Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget - Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan, Cadeirydd Bwrdd Gofal Sylfaenol Gwladol ac Arweinydd Strategol
Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd
yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Simon Dean, Dirprwy
Brif Weithredwr GIG Cymru, a Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o'r ymchwiliad i wasanaethau gofal sylfaenol y
tu allan i oriau. 4.2
Cytunodd Dr Goodall i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am: ·
gwerthusiad
y Bwrdd Gofal Sylfaenol o'r trefniadau a wnaed gan fyrddau iechyd i sicrhau bod
y galw yn cael ei fodloni dros fisoedd y gaeaf ·
y
dangosyddion ansawdd sy'n cael eu monitro ar hyn o bryd |
|
(15.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 6 & 7 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.15-15.30) |
Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(15.30-16.00) |
Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor PAC(5)-11-19 Papur 3 – Papur ar rôl y Pwllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau cylch gwaith y Pwyllgor a'i nodi. |