Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i'r Pwyllgor. |
|
(13.15 - 13.20) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papur. |
|
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (20 Chwefror 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.20 - 14.50) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-07-19
Papur 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Len Richards – Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Steve Curry - Prif Swyddog Gweithredu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Caroline Bird - Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd
yr aelodau dystiolaeth gan Len Richards, Prif Weithredwr, Steve Curry, Prif
Swyddog Gweithredu, a Caroline Bird, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu Bwrdd
Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau
cleifion allanol ar draws Cymru. 3.2
Cytunodd Len Richards i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol: ·
Canlyniadau'r
gwaith archwilio mewnol/clinigol diweddar a wnaed ynghylch apwyntiadau dilynol
cleifion allanol; ·
Cadarnhad
a fydd yr holl optometryddion a leolir yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
yn gallu atgyfeirio cleifion ar gyfer apwyntiad ymgynghorydd yn electronig pan
gaiff y system ei chyflwyno yn ystod chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2019-20; ·
Nifer y
cleifion y tu allan i'r ardal sy'n aros am atgyfeiriad claf allanol ar hyn o
bryd, ynghyd â dadansoddiad o'r meysydd gwasanaeth. |
|
(15.00 - 16.30) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan PAC(5)-07-19
Papur 2 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Judith
Paget, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dr Paul
Buss, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Claire
Birchall, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cafodd
yr aelodau dystiolaeth gan Judith Paget, Prif Weithredwr, Dr Paul Buss,
Cyfarwyddwr Meddygol, a Claire Birchall, Cyfarwyddwr Gweithredol
Gweithrediadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o'r ymchwiliad i
reoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru. 4.2
Cytunodd Judith Paget i anfon rhagor o wybodaeth am hyd y cyfnod roedd y system
deledermatolegol wedi bod yn weithredol. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 6 &
7 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.30 - 16.45) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 6.1
Trafododd yr aelodau'r dystiolaeth a gafwyd. |
|
(16.45 - 17.00) |
Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru: Gohebiaeth y Pwyllgor PAC(5)-07-19 PTN2 – Llythyr oddi wrth Cadeirydd y
Pwyllgor i Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon (7 Chwefror 2019) PAC(5)-07-19 PTN3 – Llythyr oddi wrth Dr Dai Lloyd AC,
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i Gadeirydd y
Pwyllgor (12 Chwefror 2019) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd
yr aelodau'r ohebiaeth. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Dr
Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif
Weithredwr GIG Cymru, yn gofyn am ei farn am Adroddiad yr Archwilydd
Cyffredinol, ynghyd â'r gwariant ar staff asiantaeth a nodwyd yn Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon 2018-19 y Bwrdd Iechyd, a thrafod y mater eto yn nhymor
yr hydref. |