Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jenny Rathbone AC. |
|
(13.45) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. |
|
Archwiliad o Berthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ag RKC Associates Ltd a’i Berchennog: llythyr gan Maria Battle, Cadeirydd y Bwrdd (6 Chwefror 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.50 - 15.20) |
Caffael Cyhoeddus – Y Camau Nesaf: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-05-19
Papur 1 – Papur Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad
o’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru PAC(5)-05-19
Papur 2 - Ymateb gan Gomisiynydd Cenedlaethaur Dyfodol Cymru PAC(5)-05-19
Papur 3 – Ymateb gan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru PAC(5)-05-19
Papur 4 – Ymateb gan Dr Jane Lynch Prifysgol Caerdydd PAC(5)-05-19
Papur 5 – Ymateb gan Gymedeithas Llywodraeth Leol Cymru PAC(5)-05-19
Papur 6 – Ymateb gan Gonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru HEPCW PAC(5)-05-19
Papur 7 – Ymateb gan Cyngor Caerdydd Andrew
Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol,
Llywodraeth Cymru Marion
Stapleton – Dirprwy Gyfarwyddwr, Tîm Strategaeth Gwasanaethau Trawsbynciol,
Llywodraeth Cymru Jonathan Hopkins
- Dirprwy Gyfarwyddwr Masnachol a
Chaffael, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol
Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol; Marion Stapleton, Dirprwy
Gyfarwyddwr y Tîm Strategaeth Gwasanaethau Trawsbynciol, a Jonathan Hopkins,
Dirprwy Gyfarwyddwr Masnachol a Chaffael Llywodraeth Cymru fel rhan o’u
hymchwiliad i gaffael cyhoeddus. 3.2
Cytunodd Andrew Slade i roi gwybod i’r Pwyllgor am unrhyw gostau na ellir eu
hadennill ar gyfer creu a chynnal y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, gan
gynnwys yr holl gyngor a gafwyd a’r buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru,
ynghyd â chostau TG a staff. |
|
(15.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 5,
6 & 7 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.20 - 15.45) |
Caffael Cyhoeddus - Y Camau Nesaf: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(15.45 - 16.30) |
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-05-19 Papur 8 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar nifer
fach o ddiwygiadau a fydd yn cael eu rhannu drwy e-bost. |
|
(16.30) |
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Paratoi ar gyfer Brexit PAC(5)-05-19 Papur 9 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd
yr Aelodau yr adroddiad, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ar 19 Chwefror, gan
nodi y bydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ei drafod.
|