Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/07/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Nid
oedd dirprwyon yn bresennol ar eu rhan. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. 2.2 Cytunodd y Cadeirydd i ymateb i Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad
ynghylch yr ymrwymiad y cytunwyd arno y byddent yn cyhoeddi manylion y
cymhorthdal fesul teithiwr bob blwyddyn ochr yn ochr â niferoedd
y teithwyr. |
|
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Llythyr gan Steve Ham, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Felindre (28 Mehefin 2018) Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (3 Gorffennaf 2018) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 14.20) |
Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-19-18
Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion. |
|
(14.20 - 15.30) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth 2 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Tracy
Myhill - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Sian
Harrop-Griffiths - Cyfarwyddwr Strategaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg Lynne Hamilton
- Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Tracy Myhill, Prif Weithredwr; Sian Harrop-Griffiths, Cyfarwyddwr Strategaeth; a Lynne Hamilton,
Cyfarwyddwr Cyllid o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fel
rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. 4.2 Cytunodd Tracy Myhill i: · siarad â
Chadeirydd y Bwrdd ynghylch y pecyn taliadau a gafodd y cyn Brif Weithredwr pan
adawodd y Bwrdd Iechyd a rhoi gwybod i'r Cadeirydd am y drafodaeth hon; a · rhannu rhai o
gynlluniau digidol y Bwrdd Iechyd â'r Pwyllgor. |
|
(15.40 - 16.45) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth 3 Len
Richards - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Bob Chadwick – Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Len Richards, Prif Weithredwr, a Bob
Chadwick, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel
rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. 5.2 Cytunodd Len Richards i gadarnhau a ddarparodd y Bwrdd Iechyd
ddatganiad o effaith y diffoddiad ym mis Ionawr 2018 ac i roi gwybod i'r
Pwyllgor am hyn mewn nodyn. |
|
(16.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitem 7
a’r cyfarfod ar 17 Gorffennaf 2018 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.45 - 17.00) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |