Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC – dirprwyodd Angela Burns AC ar ei ran.
Ymddiheurodd Neil Hamilton AC ac Adam Price AC hefyd. 1.3 Datganodd Lee
Waters AC fuddiant fel Aelod o Bwyllgor Archif Gwleidyddol Llyfrgell
Genedlaethol Cymru. |
|
(13.30 - 13.35) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (16 Hydref 2017) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Gwybodaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru (1 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Penodi Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru (18 Hydref 2017) Dogfennau ategol: |
||
(13.35 - 14.30) |
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Cyngor Celfyddydau Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-28-17
Papur 1 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17 Cyngor Celfyddydau Cymru PAC(5)-28-17
Papur 2 – Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru gan
Lywodraeth Cymru Nick Capaldi - Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru Gwyn Williams - Cyfarwyddwr Cyllid, Cyngor Celfyddydau Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu'r Aelodau yn craffu ar waith Nick Capaldi, Prif Weithredwr a Gwyn
Williams, Cyfarwyddwr Cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru ar Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon 2016-17. 3.2 Cytunodd Nick Capaldi i anfon: · rhagor o
wybodaeth am swm y gyllideb a ddyrennir ar gyfer prosiectau sydd wedi'u
targedu'n benodol i NEETS mewn ardaloedd difreintiedig, nifer y prosiectau a'r
flaenoriaeth a roddir iddynt gan Gyngor y Celfyddydau; · dadansoddiad
manwl o gronfeydd wrth gefn Cyngor Celfyddydau Cymru; a · nifer y
sefydliadau a nodwyd yn rhai ‘risg coch’ yn y portffolio. |
|
(14.40 - 15.40) |
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Llyfrgell Genedlaethol Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-28-17
Papur 3 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17 Llyfrgell Genedlaethol Cymru PAC(5)-28-17
Papur 4 – Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan
Lywodraeth Cymru PAC(5)-28-17
Papur 5 – Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (18 Hydref 2017) PAC(5)-28-17
Papur 6 – Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (25 Hydref 2017) Linda
Tomas - Llyfrgellydd Cenedlaethol Rhodri
Glyn Thomas – Llywydd,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru David
Michael - Cyfarwyddwr
Adnoddau Corfforaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu Aelodau yn craffu ar waith Linda
Tomas, Llyfrgellydd Cenedlaethol; Rhodri Glyn Thomas, Llywydd a David Michael,
Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon 2016-17. |
|
(15.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.40 - 16.00) |
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. 6.1 Gofynnodd y Cadeirydd i'r Clercod baratoi adroddiad er mwyn i'r Aelodau
ei ystyried. |