Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 803KB) Gweld fel HTML
(351KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 O ran y llythyr ar arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion, cytunodd y
Pwyllgor y byddai angen eglurhad pellach, yn enwedig ar yr amserlen ar gyfer
gweithredu'r mentrau. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a
chytunwyd i drefnu sesiwn dystiolaeth cyn diwedd y tymor. |
|
Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (29 Medi 2017) Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad Rheoli Grantiau Llywodraeth Cymru: Adroddiad Blynyddol Interim 2016-17 Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 15.15) |
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Chwaraeon Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-25-17
Papur 1 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17 Chwaraeon Cymru PAC(5)-25-17
Papur 2 – Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru Sarah
Powell - Prif Weithredwr, Chwaraeon Cymru Peter
Curran - Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Chwaraeon Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Cadeirydd gydymdeimlad y Pwyllgor â Chwaraeon Cymru yn dilyn y
ddamwain angheuol yn cynnwys Paul Garrett.
3.2 Bu'r Aelodau'n craffu ar Sarah Powell, Prif Weithredwr a Peter Curran,
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Chwaraeon Cymru ar yr Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon 2016-17. 3.3 Cytunodd Sarah Powell i anfon rhagor o fanylion ar faint o fuddsoddiad
y mae'r Rhaglenni 5 x 60 a Champau'r Ddraig wedi ei dderbyn ynghyd â'r dull o
werthuso effeithiolrwydd y rhaglenni hyn ynghyd â'r set olaf o ddata gwerthuso. |
|
(15.25 - 16.30) |
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Comisiwn y Cynulliad Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-25-17
Papur 3 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2016-17 Manon
Antoniazzi - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Suzy Davies AC - Comisiynydd y Gyllideb a
Llywodraethu Nia Morgan
- Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu'r Aelodau'n craffu ar Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y
Cynulliad; Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu a Nia Morgan,
Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon 2016-17. 4.2 Cytunodd Manon Antoniazzi i anfon copi o'r Adroddiad Adolygu Capasiti
i'r Pwyllgor, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 6
& 7 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.30 - 16.50) |
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.50 - 17.00) |
Rhaglen Waith: Senedd@Delyn PAC(5)-25-17 Papur 4 – Llythyr oddi wrth y Llywydd (28 Medi
2017) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau y posibilrwydd o gymryd rhan yn yr wythnos
Senedd@Delyn ond yn anffodus, oherwydd bod gan y mwyafrif ymrwymiadau
blaenorol, ni fydd y Pwyllgor yn gallu cymryd rhan. |