Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

 

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor i'r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.3       Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad i egluro pwynt ar gyfer y cofnod, o gwestiwn a gyfeiriwyd at bobl yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 13 Chwefror.

 

(13.15 - 13.20)

2.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Cywiriad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

(13.20 - 13.30)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2015-16: Ymatebion i Adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-07-17 Papur 1 – Llywodraeth Cymru a Gyrfa Cymru

PAC(5)-07-17 Papur 2 – Estyn

PAC(5)-07-17 Papur 3 – Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb i'w adroddiad ar Graffu ar Gyfrifon 2015-16 a chytunwyd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2017.

 

(13.30 - 14.20)

4.

Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Sesiwn dystiolaeth 9

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-07-17 Papur 3 - Ymateb i'r ymgynghoriad gan y Bwrdd Rheoleiddio ar gyfer Cymru

 

Helen White - Cadeirydd, y Bwrdd Rheoleiddio ar gyfer Cymru

Mike Wiseman - Cadeirydd, Panel Ymgynghorol Tenantiaid

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Helen White, Cadeirydd, Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a Mike Wiseman, Cyn Gadeirydd, y Panel Cynghori Tenantiaid ac aelod o’r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio a’r Grŵp Making it Happen, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai Cymru.

 

(14.30 - 15.20)

5.

Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Sesiwn dystiolaeth 10

PAC(5)-07-17 Papur 5 – Papur gan Prif Weithredwr, Tai Ceredigion

PAC(5)-07-17 Papur 6 – Papur gan Chair, Tai Ceredigion

 

Steve Jones – Prif Weithredwr, Tai Ceredigion

Derek Lassetter – Cadeirydd, Tai Ceredigion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Jones, Prif Weithredwr a Derek Lassetter, Cadeirydd Tai Ceredigion, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai.

 

 

(15.20 - 16.10)

6.

Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Sesiwn dystiolaeth 11

PAC(5)-07-17 Papur 7 - Papur gan Cartrefi Cymoedd Merthyr

 

 

Michael Owen - Prif Weithredwr, Cartrefi Cymoedd Merthyr

Nicola Evans – Cadeirydd, Cartrefi Cymoedd Merthyr

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Michael Owen, Prif Weithredwr a Nicola Evans, Cadeirydd Cartrefi Cymoedd Merthyr, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai Cymru.

 

 

(16.10)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 8 a 9

 

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.10 - 16.25)

8.

Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.25 - 17.00)

9.

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-07-17 Papur 8 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.