Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/11/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.30 - 11.10) |
Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil Archwilio Cymru -
Sylwebaeth ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2019-20 PAC(5)-24-20
Papur 1 – Cyfrifon
Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 PAC(5)-24-20
Papur 2 - Llythyr ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth
Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (6 Tachwedd 2020) PAC(5)-24-20
Papur 3 - Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (29
Hydref 2020) Shan Morgan –
Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Gawain Evans –
Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru David Richards –
Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru Andrew Slade –
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp
yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu’r Aelodau yn holi’r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon
Cyfunol ac Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Gymru 2019-20. 2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai’n: ·
Anfon copi o’r papur asesu
technegol a baratowyd ar gyfer Trysorlys Ei Mawrhydi, ac wedi hynny i’w
ystyried gan y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol (FRAB) ynghylch y
weithdrefn ar gyfer ymdrin â grantiau mewn amgylchiadau eithriadol. ·
Rhoi trosolwg o nifer a natur
unrhyw gontractau sy’n bodoli, os o gwbl, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth
y DU ar gyfer gwasanaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19. ·
Cadarnhau a oedd contract ar waith
gyda Lighthouse Labs, ac os felly, a oedd yn cynnwys cymalau ar gyfer amseroedd
cyflawni, ac a fyddai perfformiad gwael wedi bod yn gyfystyr â thorri ar y
contract. ·
Cadarnhau a oes gan Lywodraeth
Cymru gontract neu gytundeb ysgrifenedig arall gyda Llywodraeth y DU ar gyfer
cyrchu a darparu’r brechlyn Covid-19. ·
Rhoi gwybodaeth ychwanegol am
amseriad disgwyliedig derbyniadau rhaglenni’r UE. ·
Darparu sail resymegol o ran sut
mae model yr Adran Addysg, a ddefnyddir i gyfrifo dileu benthyciadau myfyrwyr,
wedi’i addasu i’w ddefnyddio yng Nghymru. ·
Cadarnhau faint o log oedd yn
daladwy ar y ffi warant ynghyd â’r costau cyfreithiol cysylltiedig o ran
dileu’r prosiect Cylchffordd Cymru. ·
Darparu tabl sy’n rhoi manylion y
swm a dalwyd am dir ac adeiladau, a’r swm y cawsant eu gwerthu amdano wedi
hynny, yn dilyn y cyhoeddiad na fyddai cynllun coridor yr M4 yn mynd yn ei
flaen. Bydd y pris prynu hefyd yn dangos y pris malltod a’r gwir bris prisio. 2.3 Cytunodd Andrew Slade i gynnwys sylwebaeth ynghylch y
canfyddiad ychwanegol y cytunwyd arno ar gyfer y Ganolfan Confensiwn
Rhyngwladol yn ei lythyr ar gyllid busnesau, sy’n cael ei baratoi ar gyfer y
Pwyllgor ar hyn o bryd. |
|
(11.10 - 11.15) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papur. |
|
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW): Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (11 Tachwedd 2020) Dogfennau ategol: |
||
(11.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 5 a 6 a’r
cyfarfod ar 30 Tachwedd 2020 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.20 - 12.00) |
Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
Bydd y Pwyllgor yn parhau â’i waith craffu ar Gyfrifon Cyfunol ac Adroddiad
Blynyddol Llywodraeth Gymru 2019-20 ar 7 Rhagfyr 2020. |
|
(12.00 - 12.15) |
Blaenraglen waith: Blaenraglen Waith ar gyfer y gwanwyn 2021 PAC(5)–24-20
Papur 4 – Rhaglen waith Gwanwyn 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd yr Aelodau y flaenraglen waith ar gyfer y
gwanwyn 2021. |