Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC. Ni chafwyd dirprwy ar eu rhan.

 

 

(13.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Mawrth 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Cyfoeth Naturiol Cymru: Diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar weithrediad argymhellion yr adroddiad (Ebrill 2019)

Dogfennau ategol:

2.3

Rheoli meddyginiaethau: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (Ebrill 2019)

Dogfennau ategol:

(13.35 - 13.45)

3.

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Ystyried ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-11-19 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gael copi o'r adroddiad ar yr hyn a ddysgwyd y cyfeiriwyd ato yn yr ymateb.

 

(13.45 - 15.15)

4.

Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio

PAC(5)-11-19 Papur 2 – Papur Llywodraeth Cymru

 

Dr Andrew Goodall – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru

Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Judith Paget - Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cadeirydd Bwrdd Gofal Sylfaenol Gwladol ac Arweinydd Strategol Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, a Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o'r ymchwiliad i wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

4.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am:

·         gwerthusiad y Bwrdd Gofal Sylfaenol o'r trefniadau a wnaed gan fyrddau iechyd i sicrhau bod y galw yn cael ei fodloni dros fisoedd y gaeaf

·         y dangosyddion ansawdd sy'n cael eu monitro ar hyn o bryd

 

 

(15.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 6 & 7

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.15-15.30)

6.

Gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.30-16.00)

7.

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor

PAC(5)-11-19 Papur 3 – Papur ar rôl y Pwllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau cylch gwaith y Pwyllgor a'i nodi.