Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/04/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00 - 14.45) |
Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-11-18 Papur 1 - Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd arno. |
|
(14.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 2.2 Ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(14.45 - 14.50) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
(14.50 - 16.20) |
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: sesiwn dystiolaeth 2 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-11-18 Papur 2 – Papur gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan PAC(5)-11-18 Papur 3 – Papur gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Nicola Prygodzicz – Arweinydd Gweithredol, Cyfarwyddwr Cynllunio a
Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Mike Ogonovsky – Cyfarwyddwr Gwybodeg Cynorthwyol, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan Karen Miles - Arweinydd Gweithredol, Cyfarwyddwr Cynllunio, Perfformiad a
Chomisiynu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Anthony Tracey - Cyfarwyddwr Gwybodeg Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Nicola Prygodzicz a Mike Ogonovsky o Fwrdd
Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Karen Miles ac Anthony Tracey o Fwrdd Iechyd
Lleol Hywel Dda fel rhan o'u hymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru. 4.2
Cytunodd Mike Ogonovsky i anfon rhagor o wybodaeth am amserlen y prosiect LIMS
(system rheoli gwybodaeth labordai). |
|
(16.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 6 ac Eitemau 1 & 2 y cyfarfod ar 30 Ebrill 2018 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.20 - 16.45) |
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1
Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law. |