Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 20/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r
cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC
a Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwyon. 1.3 Talodd y Cadeirydd deyrnged i'r diweddar Carl
Sargeant AC. |
|
(14.00 - 14.10) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. 2.2
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru o'r gyllid
yn ystod y flwyddyn ar gyfer byrddau iechyd a chanfyddiadau adolygiad Deloitte
o faterion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel rhan o Ddeddf
Cyllid y GIG (Cymru) 2014. O ran Cyflogau Uwch-reolwyr, nododd y Pwyllgor y
byddai'r Archwilydd Cyffredinol yn adrodd yn ôl ar ôl trafodaethau gyda
Llywodraeth Cymru. |
|
Rheoli meddyginiaethau: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (30 Hydref 2017) Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (6 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
Cyflogau Uwch-reolwyr: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (8 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
(14.10 - 15:30) |
Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1 Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-29-17
Papur 1 – Papur atodol gan Tai Cymunedol Cymru PAC(5)-29-17
Papur 2 – Papur atodol gan Cymorth Cymru Stuart Ropke –
Prif Weithredwr, Tai Cymunedol Cymru Enid Roberts – Cyfarwyddwr
Cynorthwyol, Cwsmeriaid a Chymunedau, Cartrefi Cymunedol Gwynedd Katie Dalton –
Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru Rhian Stone –
Cyfarwyddwr Gofal a Chefnogaeth Grŵp POBL a Chyfarwyddwr Cymorth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol
Cymru; Enid Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cwsmeriaid a Chymunedau, Cartrefi
Cymunedol Gwynedd; Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru a Rhian Stone,
Cyfarwyddwr Gofal a Chymorth yn Grŵp POBL a Chadeirydd Cymorth Cymru fel
rhan o'i ymchwiliad i'r Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru. |
|
(15.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.30 - 16.00) |
Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gyda'r pryderon a fynegwyd ynghylch y syniad
arfaethedig o roi gorau i neilltuo cyllideb y Rhaglen Cefnogi Pobl a'r effaith
y gallai hyn ei chael ar yr aelodau o'r gymdeithas sy'n agored i niwed. 5.2 Nododd
yr Aelodau fod yr Archwilydd Cyffredinol yn rhagweld cyhoeddi adroddiad ar sut y mae llywodraeth leol yn rheoli'r galw am
wasanaethau digartrefedd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd y gellid ei ystyried
fel rhan o'r ymchwiliad hwn. |