Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tyst i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AC.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN1 - Ymateb gan Swyddfa Archwilio Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru - 20 Chwefror 2020

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21 - Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i argymhellion y Pwyllgor Cyllid - 28 Chwefror 2020

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Sesiwn dystiolaeth 3

Yr Athro James Foreman-Peck, Athro Economeg, Prifysgol Caerdydd

 

Papur 1 - Tystiolaeth ysgrifenedig: James Foreman-Peck a Peng Zhou, Prifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig)

Briff ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro James Foreman-Peck, Athro Economeg, Prifysgol Caerdydd ar effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.45)

5.

Effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.45-11.00)

6.

Trafod y datganiad o egwyddorion i gyrff a ariennir yn uniongyrchol

Papur 2 - Ystyried y datganiad o egwyddorion i gyrff a ariennir yn uniongyrchol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y datganiad o egwyddorion y mae’n disgwyl i gyrff a ariennir yn uniongyrchol ei ystyried wrth wneud cynigion cyllidebol, a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor ym mis Mai 2019. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y cyrff a ariennir yn uniongyrchol i gadarnhau pwysigrwydd yr egwyddorion hyn, cyn y rownd nesaf o gynigion cyllidebol.

 

(11.00-11.10)

7.

Taliadau cadw yn y sector adeiladu: Trafod y llythyr drafft

Papur 3 – Llythyr drafft at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Ymchwiliad i Daliadau Cadw yn y Sector Adeiladu (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar lythyr ar y cyd â Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch ei ymchwiliad i daliadau cadw yn y sector adeiladu.

 

(11.10-11.40)

8.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Papur 4 – Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)

Papur 5 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Gwybodaeth bellach yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2020 – 20 Chwefror 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â newidiadau.