Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Sarah
Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru. |
|
(09.00-09.50) |
Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 3 (Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru) Victoria Lloyd, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Age Cymru Kate Cubbage, Uwch Reolwr Materion Allanol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Age Cymru Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cymerodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Victoria Lloyd, Prif Swyddog Gweithredol Interim, Age
Cymru; a Kate Cubbage, Uwch Reolwr Materion Allanol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr
Cymru ar ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio. 2.2 Cytunodd
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddarparu rhagor o fanylion ar: ·
y
newidiadau i gomisiynu gwasanaethau sy'n deillio o anghenion mwy cymhleth; a ·
cholli
gwelyau seibiant. |
|
(09.50-10.30) |
Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 4 (Fforwm Gofal Cymru) Mary Wimbury, Prif Weithredwr, Fforwm Gofal Cymru Mario Kreft, Cadeirydd, Fforwm Gofal Cymru Sanjiv Joshi, Aelod o'r Bwrdd, Fforwm Gofal Cymru Papur 3 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Fforwm Gofal Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mary Wimbury,
Prif Weithredwr, Fforwm Gofal Cymru; Mario Kreft, Cadeirydd, Fforwm Gofal
Cymru; a Sanjiv Joshi, Aelod o'r Bwrdd, Fforwm Gofal Cymru ar ei ymchwiliad i
gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio. 3.2 Cytunodd Fforwm Gofal Cymru i ddarparu copi o
adroddiad diweddar gan Knight Frank. |
|
(10.30-11.10) |
Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 5 (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru) Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Papur 4 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sarah Rochira, Comisiynydd
Pobl Hŷn Cymru. Caiff y sesiwn dystiolaeth ei hail-drefnu ar gyfer
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(11.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.10-11.20) |
Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.20-11.40) |
Trafod y flaenraglen waith Papur 5 – Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer
tymor yr haf. |
|
(11.40-12.00) |
Proses y gyllideb ar gyfer deddfwriaeth – Papur cwmpasu Papur 6 – Proses y gyllideb ar gyfer deddfwriaeth – Papur cwmpasu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar gostau
deddfwriaeth a chytunodd i gynnal ymchwiliad. |
|
(12.00-12.10) |
Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016: Offerynnau Statudol ym maes treth Papur 7 – Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Cofnodion
Treth Gwarediadau Tirlenwi) (Cymru) 2018 Rheoliadau
Casglu a Rheoli Trethi (Cofnodion Treth Gwarediadau Tirlenwi) (Cymru) 2018 Papur 8 - Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018 Rheoliadau
Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol)
2018 Rheoliadau Deddf Casglu
a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018 –
Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol a ganlyn,
gan gytuno i gyflwyno adroddiad arnynt. |