Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/10/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

(14.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

FIN(5)-18-20 PTN 1 - Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 - 28 Medi 2020

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Fframwaith Datblygu Cenedlaethol - 21 Medi 2020

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynllun Gwaith Polisi Treth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 - 29 Medi 2020

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Llythyr gan Archwilio Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau - Cymhwysedd Deddfwriaethol - 30 Medi 2020

Dogfennau ategol:

(14.30-15.30)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2021-22 Sesiwn dystiolaeth

Suzy Davies AS, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Papurau atodol:

FIN(5)-18-20 P1 – Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Suzy Davies AS, sef y Comisiynydd dros y Gyllideb a Llywodraethiant; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid ynghylch craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22.

 

3.2 Cytunodd y Comisiwn i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am ei strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu; a rhoi rhagor o fanylion am ailstrwythuro swyddi penodol o fewn y Gyfarwyddiaeth Ymgysylltu.

 

 

 

15.45-16.45

4.

Craffu ar Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella

David Meaden, Cyfrifydd Ariannol

 

Papurau atodol:

FIN(5)-18-20 P2 – Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2021-22

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella; a David Meaden, Cyfrifydd Ariannol Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22.

 

(16.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a dechrau cyfarfod y Pwyllgor ar 12 Hydref.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.45-17.00)

6.

Craffu ar Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(17.00-17.15)

7.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2021-22 Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.