Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/09/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Agorodd y Clerc y cyfarfod a galwodd am enwebiadau i ethol cadeirydd dros dro
ar gyfer y cyfarfod hwn ac ar gyfer y cyfarfod ar 27 Medi 2018. 1.2
Enwebwyd Llyr Gruffydd gan David Rees, ac fe'i hetholwyd yn gadeirydd dros dro. 1.3
Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.4 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC. Roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei
ran. |
|
(09.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN1 - Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol - 26 Gorffennaf 2018 Dogfennau ategol: |
||
PTN2 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19 - 10 Awst 2018 Dogfennau ategol: |
||
(09.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 27 Medi 2018 Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09.00-10.30) |
Paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft Papur 1 –
Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd
y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i gymeradwyo unrhyw newidiadau
pellach drwy e-bost. |
|
(10.30-10.40) |
Trafod Offeryn Statudol Treth Papur 2 -
Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle)
(Diwygio) 2018 - Sesiwn friffio cyfreithiol Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi
(Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd
y Pwyllgor yr offeryn statudol a gofynnwyd am ddiffiniad cyfreithiol o
'top-soil'. |
|
(10.40-10.45) |
Mentrau Senedd@ Papur 3 -
Llythyr gan y Llywydd - mentrau Senedd@ – 18 Gorffennaf 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd
y Pwyllgor y mentrau Senedd@ arfaethedig. |
|
(10.45-11.45) |
Cost Gofalu am Boblogaeth sy’n Heneiddio: Trafod yr adroddiad drafft Papur 4 –
Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd
y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd i ystyried y fersiwn ddiwygiedig yn
y cyfarfod nesaf. |
|
(11.45-11.50) |
Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20 Papur 5 - Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru 2019-20 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o graffu ar y gyllideb ddrafft a'r amserlen ar
gyfer sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref. Cytunodd y Pwyllgor
i gynnal cyfarfod ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar asesiadau effaith yn y gyllideb. |