Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

13.15

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Datganiad agoriadol y Cadeirydd

 

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad agoriadol yn talu teyrnged i'r diweddar Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, a fu farw yr wythnos diwethaf.

 

13.15

2.

Ymchwiliad i sicrhau llais cryfach i Gymru: Sesiwn dystiolaeth 10

Paul Cairney, Athro Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus, yr Adran Hanes a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Stirling

 

CLA(5)-14-17 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

14.15

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-14-17 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

3.1

SL(5)105 – Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017

3.2

SL(5)106 - Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017

3.3

SL(5)107 - Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017

3.4

SL(5)108 - Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Adolygu Penderfyniadau Cofrestru) (Cymru) 2017

3.5

SL(5)109 - Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

14.20

4.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

SL(5)110 - Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adolygu Penderfyniadau Rhestru) (Cymru) 2017

CLA(5)-14-17 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-14-17 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-14-17Papur 4 – Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.

 

5.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.7

5.1

SL(5)104 - Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru

CLA(5)-14-17 – Papur 5 – Cod Ymarfer

CLA(5)-14-17Papur 6 – Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes ac Ysgrifenyddion y Cabinet perthnasol yn ymwneud â'r geiriau 'dylai' a 'rhaid' yn y Cod ac yn y Canllawiau Statudol – Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru. 

 

 

6.

Papur i’w nodi

6.1

Llythyr gan Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Deddfwriaethol Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Senedd Awstralia

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

 

6.2

Ymateb y Llywodraeth i SL(5)090 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth i SL(5)090 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017, a oedd ar gael ar ôl cyhoeddi papurau'r cyfarfod. Nododd y Pwyllgor yr ymateb ac roedd yn fodlon â'r sylwadau yn ymwneud â materion hawliau dynol o ran y terfyn oed. Fodd bynnag, nid oedd y Pwyllgor yn teimlo bod yr ymateb yn mynd i'r afael yn llawn â phryderon y Pwyllgor ynghylch carcharorion cymwys.

Cytunodd y Pwyllgor i osod adroddiad atodol gerbron y Cynulliad ac i ysgrifennu at y Llywodraeth ynghylch carcharorion cymwys.

 

14.25

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

8.

Ymchwiliad Llais Cryfach i Gymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

14.30

9.

Bil y Diddymu Mawr: Trafodaeth

 

CLA(5)-14-17 - Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(5)-14-17 – Papur 8 - Ymateb y Pwyllgor i Bwyllgor Gweithdrefn Tŷr Cyffredin: Bil y Diddymu Mawr

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â Phapur Gwyn Llywodraeth y DU ar Fil y Diddymu Mawr.