Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil McEvoy. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu
at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn o
ystyried bod y ddeiseb wedi derbyn dros 5,000 o lofnodion; ac yn y cyfamser ·
ysgrifennu'n
ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn: o
am
fanylion canlyniad y gweithdy a drefnwyd gan Fwrdd Wroleg Cymru ar 12 Tachwedd; o
am asesiad
o argaeledd presennol sganiau mpMRI cyn-fiopsi i gleifion yng Nghymru; o
pa
gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i fabwysiadu sganiau mpMRI a
sicrhau eu bod ar gael ledled Cymru; o
pa
gefnogaeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei darparu i fyrddau iechyd pe bai
NICE yn adolygu ei ganllawiau i argymell defnyddio sganiau mpMRI cyn-fiopsi; a o
ph'un a
yw'n ystyried bod ateb interim priodol a fyddai'n galluogi mynediad at sganiau
mpMRI i gleifion ledled Cymru, megis drwy alluogi mynediad at gyfleusterau
preifat ar gyfer sganiau. |
|
P-05-851 Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn:
|
|
P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd
ar yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd cyn ystyried a ddylid cymryd
camau pellach ar y ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol
ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:
|
|
P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor grynodeb o'r ymatebion a gafwyd gan fyrddau iechyd yng Nghymru yn
ymwneud â manylion am y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i bobl ag
anhwylder personoliaeth ffiniol yn eu hardaloedd. Cytunodd yr Aelodau i ofyn am farn y
deisebydd ar y gyfres lawn o ymatebion a ddarparwyd gan y byrddau iechyd ac, yn
sgil y rhain, gofyn iddo amlinellu unrhyw ffyrdd penodol, yn ei farn ef, y
gellir gwella'r gwasanaethau neu'r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer Anhwylder
Personoliaeth Ffiniol. |
|
P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae cwmni
yn ei etholaeth yn gwneud aelodau prosthetig drwy argraffu 3D. Trafododd
y Pwyllgor ymateb gan Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a
chytunodd i:
o
ofyn am
ragor o fanylion am yr adolygiad o fanyleb y Gwasanaethau Adsefydlu
Trychedigion a Phrosthetig, gan gynnwys y broses, yr amserlenni a rhestr o'r
rhanddeiliaid y mae'n bwriadu ymgynghori â hwy; a o
cheisio
rheswm llawn y tu ôl i'r cyfyngiadau o fewn y fanyleb bresennol ar gyfer
Gwasanaethau Adsefydlu Trychedigion a Phrosthetig ar gyfer aelodau isaf
hamdden; ac
o
i
Lywodraeth Cymru ystyried sicrhau bod cyllid penodol ar gael i blant allu cael
gafael ar aelodau prosthetig chwaraeon arbenigol; a o
pha
rwystrau sydd i ddefnyddio argraffu 3D ar gyfer cynhyrchu aelodau prosthetig. |
|
P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar: o
arferion
cyfredol mewn perthynas â sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd rhan yn y
broses o gomisiynu gwasanaethau a llywio'r broses honno; a o
p'un a yw
Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn effeithiol wrth sicrhau
cyfranogiad pobl ifanc wrth gomisiynu gwasanaethau lleol; a
|
|
P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a
chytunodd i gadw golwg ar y ddeiseb hyd nes y cyhoeddir y fframwaith diwygiedig
ar bresenoldeb mewn ysgolion y flwyddyn nesaf, cyn penderfynu a ddylid cymryd
unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb. |
|
P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Powys i ofyn am fanylion am unrhyw
gynigion i gydnabod y Brimmon Oak fel rhan o'r ffordd osgoi newydd yr
ymgynghorwyd arnynt yn lleol. |
|
P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Bendigeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ddarparu
manylion cyswllt y deisebydd i'r tîm sy'n ystyried dyluniadau posibl ar gyfer y
bont newydd. Yn sgil yr ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Thrafnidiaeth y bydd cynnig Pont Bendigeidfran yn cael ei asesu fel
rhan o'r gwaith dylunio ar gyfer y bont, cytunodd y Pwyllgor hefyd i gau'r
ddeiseb. |
|
P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarferiad asesu stoc a statws
parhaus y bysgodfa. |
|
P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a chytunodd i aros am
ymateb gan y deisebwyr i'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog cyn ystyried
a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb. |
|
P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a
Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd. Daeth yr Aelodau
i'r casgliad y dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol wneud penderfyniadau ynghylch
a ddylid adolygu cynllun datblygu lleol ai peidio ac, ar y sail honno, cytunodd
y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodrath Leol a
Gwasaneathau Cyhoeddus, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a'r deisebydd, a
chytunodd i:
|