Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: aros am
farn y deisebydd ar yr ymateb gan Arweinydd y Tŷ cyn ystyried camau
pellach ar y ddeiseb. |
||
P-05-799: Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro
cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: gwahodd y deisebydd a Dr Elin Jones i sesiwn
dystiolaeth lafar ar y ddeiseb cyn ystyried y posibilrwydd o gynnal dadl arall. |
||
P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: aros am
farn y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i
gadw llygad ar y sefyllfa tra bod yr adolygiad o anhwylderau bwyta yn mynd
rhagddo hyd nes tymor yr hydref 2018 a disgwyl am wybodaeth bellach am gynnydd
cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ai peidio. |
||
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa tra
bod yr adolygiad o anhwylderau bwyta yn mynd rhagddo hyd nes tymor yr hydref
2018 a disgwyl am wybodaeth bellach am gynnydd cyn ystyried a ddylid cymryd
unrhyw gamau pellach ai peidio. |
||
P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Cwm
Taf i ofyn am ei ymateb i'r ddeiseb ac am wybodaeth am:
|
||
P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:
|
||
P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r
deisebydd ymlaen at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a gofyn am:
|
||
P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd
ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru am ragor o fanylion am y prosesau a
ddilynir pan fydd gweithredwyr yn torri eu hamodau trwydded, yn unol â chais y
deisebydd; ac ·
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio
a Materion Gwledig i ofyn am wybodaeth am gynlluniau ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus ar y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, fel y cyfeirir atynt gan Cyfoeth
Naturiol Cymru. |
||
P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a
ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o Gyngor Caerdydd ac aeth i
gyfarfod diweddar y Cyngor lle trafodwyd y mater. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth a ganlyn cyn cytuno ar
unrhyw gamau pellach:
|
||
P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau manwl gan y
deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros
Ynni i'w hystyried, gan ofyn am ymateb yn benodol i'r awgrymiadau a wnaed gan y
deisebydd am ffyrdd amgen posibl o gyfrifo cyflenwad tir. |
||
P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y
byddai'n rhoi cynllun rhyddhad ardrethi parhaol ar waith ar gyfer busnesau bach
o 1 Ebrill 2018, cytunwyd i roi cyfle pellach i'r deisebydd roi sylwadau
gerbron y cyfarfod nesaf ar 27 Chwefror ac i gau'r ddeiseb hon os na cheir
ymateb. |
||
(09.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 7 ar yr agenda heddiw Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
(09.45) |
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y flaenraglen waith a
chytunodd ar amserlen ar gyfer sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol. Mewn perthynas â P-05-751, Cydnabod achosion
o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant, cytunodd y Pwyllgor i wahodd CAFCASS
Cymru a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i roi tystiolaeth mewn cyfarfod
yn y dyfodol, ac i geisio tystiolaeth ysgrifenedig ynglŷn â'r ddeiseb gan
nifer o sefydliadau eraill. |
|
(10.00) |
Sesiwn Dystiolaeth – P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Ansawdd
Gofal Iechyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a Chris Jones, Llywodraeth Cymru. |
|
Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd
ynghylch P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl
Ifanc a chytunodd i lunio adroddiad ar y ddeiseb. |