Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Roedd Adam
Price yn bresennol yn lle Neil McEvoy. Roedd
Janet Finch-Saunders wedi anfon ei hymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-704 Dod ag Arholiadau mis Ionawr yn ôl ar gyfer Myfyrwyr Safon Uwch/Uwch Gyfrannol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd
cyn trafod y ddeiseb ymhellach. |
|
P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg i ofyn a yw'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â
materion sy'n ymwneud ag awtistiaeth mewn hyfforddiant athrawon drwy'r Bil
Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg sydd i ddod, a'r amserlen
arfaethedig ar gyfer hyn. |
|
P-05-709 Cylchffordd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at yr Archwilydd
Cyffredinol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gofyn iddynt roi ystyriaeth lawn
i'r ddeiseb wrth ystyried prosiect Cylchffordd Cymru. |
|
P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i wahodd y deisebwyr i roi
tystiolaeth bellach i'r Pwyllgor. |
|
P-05-711 Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i gael barn: ·
y
deisebwyr ar y fframwaith newydd ar gyfer addasiadau yn y cartref sy'n cael ei
weithredu ar hyn o bryd; a ·
Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Anabledd Cymru ar y materion a godwyd yn y
ddeiseb a gweithredu'r fframwaith newydd. |
|
P-05-712 Byddai Adran Llywodraeth Cymru o fewn Ewrop yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru mewn trafodaethau parhaus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i basio'r ddeiseb a sylwadau
ychwanegol y deisebydd at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol, a gofyn iddo ystyried codi'r materion yn y ddeiseb wrth graffu ar
waith Prif Weinidog Cymru ar y goblygiadau i Gymru o'r DU yn gadael yr Undeb
Ewropeaidd. |
|
P-05-713 The Wildlife Warriors Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebwyr
cyn trafod y ddeiseb ymhellach. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn
trafod y ddeiseb ymhellach. |
|
P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y
cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.3. |
|
P-04-474 Cefnogaeth i Wasanaethau Caplaniaeth y GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol, a
chytunwyd i gau'r ddwy ddeiseb o gofio ystyriaeth fanwl y Pwyllgor blaenorol
o'r materion a'r datganiad clir o farn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon. |
|
P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Meningitis
Now a Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd i ofyn am eu barn ar ymestyn y rhaglen
frechu bresennol. |
|
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan fod ymchwil i economeg y
diwydiant cartrefi mewn parciau bellach wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru,
cytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn
am sylwadau'r Llywodraeth ar yr argymhellion mewn perthynas â gallu perchnogion
safleoedd i godi tâl comisiwn ar werthu cartrefi mewn parciau. |
|
P-05-702 Gofynion presenoldeb y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Item
5. Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor argymhellion Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol
Cymru. |