Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/ Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: 291(v6) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.31

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Datganiad y Llywydd

Dechreuodd yr eitem am 14.30

Ymhellach i sylwadau gan Aelodau a chais am Bwynt o Drefn, dywedodd y Llywydd fod yr holl Weinidogion ac Aelodau yn cymryd rhan lawn, boed hynny’n rhithiol neu’n gorfforol yn y Siambr, a sicrhaodd yr Aelodau a oedd yn bresennol yn y Siambr eu bod yn gwneud hynny yn unol â rheoliadau a chanllawiau.

(15 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.32

3.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020

NDM7396 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

10

7

54

Derbyniwyd y cynnig.

4.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020

NDM7383 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020.

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7383 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

10

7

54

Derbyniwyd y cynnig.

5.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020

NDM7399 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7399 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Medi 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

10

7

54

Derbyniwyd y cynnig.

6.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

NDM7395 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7395 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

11

5

54

Derbyniwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.30 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

(45 munud)

7.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Gronfa Cadernid Economaidd – Cam 3

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.37

(45 munud)

8.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Canol Trefi: diogelu eu dyfodol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.32

(0 munud)

9.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - GOHIRIWYD TAN 13 HYDREF

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem.

(0 munud)

10.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd - GOHIRIWYD TAN 6 HYDREF

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem.

(30 munud)

11.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth

NDM7400 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Amaethyddiaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2020 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Amaethyddiaeth (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3)

Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig:

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth (Saesneg yn unig)

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad:

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth (Saesneg yn unig)

Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.12

NDM7400 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Amaethyddiaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2020 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Amaethyddiaeth (Saesneg yn unig)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.47 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd.

(15 munud)

12.

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

NDM7398 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.52

NDM7398 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

13.

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020

NDM7393 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7393 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

2

0

54

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

14.

Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

NDM7394 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Awst 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7394 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Awst 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

12

1

54

Derbyniwyd y cynnig.

(45 munud)

15.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Gyfyngiadau Coronafeirws Lleol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.21

(60 munud)

16.

Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

NDM7392 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020;

2. Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;

3. Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da;

4. Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

5. Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o Covid-19.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Dogfennau Ategol

Adroddiad yr Ymgynghoriad: Crynodeb (FfDC drafft)

Adroddiad yr Ymgynghoriad (FfDC drafft)

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o’r FfDC: Crynodeb Annhechnegol

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o’r FfDC

FfDC: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Rhestr o newidiadau i ddrafft y FfDC

Gwelliant 1 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi dewis rhoi gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni niwtral o ran carbon o gymysgedd o ynni gwynt ar y môr ac ynni'r llanw.

Os derbynnir Gwelliant 1, bydd Gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu nad yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol i Gymru sy'n ffyniannus, yn gynaliadwy ac yn rhoi cyfle cyfartal i'w holl dinasyddion.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7392 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020;

2. Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;

3. Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da;

4. Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

5. Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o Covid-19.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi dewis rhoi gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni niwtral o ran carbon o gymysgedd o ynni gwynt ar y môr ac ynni'r llanw.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

1

0

53

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu nad yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol i Gymru sy'n ffyniannus, yn gynaliadwy ac yn rhoi cyfle cyfartal i'w holl dinasyddion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

30

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7392 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020;

2. Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;

3. Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da;

4. Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

5. Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o Covid-19.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

24

54

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

17.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.56, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 20.02

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: