Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 275(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/04/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dechreuodd yr eitem
am 13.41 Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd
fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau
Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at
ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o
ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.
Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi
cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a
byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau
Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys
i'r cyfarfod hwn. |
||||||||||
Pwyntiau o Drefn Dechreuodd y Llywydd y cyfarfod drwy wahodd y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfeirio at y sylwadau a wnaeth oddi
ar gamera tuag at gyd-Aelod yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf. Dywedodd y
Gweinidog nad oedd wedi bwriadu i'w sylwadau gael eu darlledu a'i fod, yn y
cyfamser, wedi ymddiheuro i'r Aelod dros Ganol Caerdydd, sydd wedi derbyn ei
ymddiheuriad. Tynnodd y Gweinidog ei sylwadau yn ôl ac ymddiheurodd i'r Llywydd
ac i'r Cynulliad. Cyfeiriodd y Llywydd hefyd at yr ail bwynt o
drefn a godwyd yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf ynghylch amserlennu Cwestiynau
Llafar a Rheol Sefydlog 34.18, gan nodi bod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno y
dylai barhau i ddatgymhwyso Rheol Sefydlog 12.56 am y tro. Cafodd yr Aelodau eu
hatgoffa gan y Llywydd y bydd cwestiynau amserol yn cael eu hailgyflwyno'r
wythnos nesaf ac ailadroddodd y byddai'r Pwyllgor Busnes yn parhau i adolygu
trefn busnes yn wythnosol. Diolchodd y Llywydd i'r Aelodau am eu dealltwriaeth,
gan alluogi'r Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau yn yr amseroedd digynsail
hyn. |
||||||||||
(5 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.44 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.44 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.52 Am 15.51 gohiriwyd
y cyfarfod am 10 munud. |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 16.07 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 17.00 |
|||||||||
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i gynnal dadl ar y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd a'u bod yn destun un bleidlais (30 munud) Derbyniwyd y cynnig
o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd
a'u bod yn destun un bleidlais. |
||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 NDM7319 – Rebecca
Evans Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2020. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.52 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynigion o dan eitemau 6
a 7 tan y Cyfnod Pleidleisio NDM7319 – Rebecca Evans Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27
Mawrth 2020. |
||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 NDM7320 – Rebecca Evans Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2020. Dogfennau Ategol Cofnodion: NDM7320 – Rebecca Evans Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill
2020. Fel
y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidlais heddiw yn unol â Rheol Sefydlog
34.11. Enwebodd
pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un
nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp
gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o
bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau
eraill o'r llywodraeth. Roedd aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu
grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain. Cynhaliwyd
y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr. Gan
fod y Cynulliad wedi cytuno i grwpio'r cynigion ar Reoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ac Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 ar gyfer pleidleisio, cafwyd
un bleidlais fel a ganlyn. Ar
ran y Grŵp Llafur a'r llywodraeth – Vikki Howells (30 pleidlais) Ar
ran Grŵp Ceidwadwyr Cymru – Angela Burns (11 pleidlais) Ar
ran Plaid Cymru – Sian Gwenllian (9 pleidlais) Ar
ran Plaid Brexit – Mark Reckless (4 pleidlais) Gareth
Bennett Neil
Hamilton Neil
McEvoy Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.17 Wrth
ddod â’r trafodion i ben, nododd y Llywydd mai hwn oedd cyfarfod rhif 1,378, a
chyfarfod olaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac y byddwn, yr wythnos nesaf, yn
ailymgynnull fel Senedd Cymru. |