Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 227(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/09/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 6 chwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
y 6 chwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon
a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.06 Gofynnwyd y 3
cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff Llywodraeth
Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd ers cyhoeddi'r bwriad i
gau gwaith dur Orb yng Nghasnewydd? Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog
roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi
penderfyniad Ineos Automotive i leoli eu hunain ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.16 Gofyn
i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Atebnyd
gan y Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd):
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd
ers cyhoeddi'r bwriad i gau gwaith dur Orb yng Nghasnewydd? Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru):
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth
Cymru i gefnogi penderfyniad Ineos Automotive i leoli eu hunain ym Mhen-y-bont
ar Ogwr? - Ni ofynnwyd y cwestiwn |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.29 Gwnaeth
Neil McEvoy ddatganiad am Dathlu Owain Glyndwr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Rheol Sefydlog 26.17(iii) mewn perthynas â’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) NDM7134 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), yn cytuno y dylai
trafodion Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) gael eu hystyried gan
Bwyllgor o’r Cynulliad Cyfan. Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.31 NDM7134 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), yn cytuno y
dylai trafodion Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) gael eu hystyried
gan Bwyllgor o’r Cynulliad Cyfan. Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Rheol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor NDM7136 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5: 1. Yn sefydlu Pwyllgor
ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. 2. Yn cytuno mai cylch
gwaith y Pwyllgor yw archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio
Etholiadol y Cynulliad. 3. Yn cytuno y caiff y
Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad
terfynol. Senedd
sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio
Etholiadol y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.31 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7136 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5: 1. Yn sefydlu
Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. 2. Yn cytuno mai
cylch gwaith y Pwyllgor yw archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio
Etholiadol y Cynulliad. 3. Yn cytuno y
caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad
terfynol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Endosgopi yng Nghymru NDM7132 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wasanaethau endosgopi yng
Nghymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ebrill 2019. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf
2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.32 NDM7132 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wasanaethau endosgopi yng Nghymru,
a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 8 Ebrill 2019. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ansawdd Aer NDM7133 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi mai yng Nghymru y mae peth o'r ansawdd aer
gwaethaf yn y DU a bod rhai ardaloedd wedi torri rheoliadau'r UE ers sawl
blwyddyn, gan arwain at gymryd Llywodraeth Cymru i'r llys am ddiffyg
gweithredu. 2. Yn gresynu bod tua
2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn (6 y cant o'r holl farwolaethau yng
Nghymru) o ganlyniad i ansawdd aer gwael. 3. Yn nodi ymhellach
bod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol ar yr ysgyfaint ac yn achosi
asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad oes dealltwriaeth lawn eto o effeithiau hirdymor
ansawdd aer gwael. 4. Yn galw ar y
Cynulliad hwn i basio bil aer glân, a'i ddeddfu, yn ystod tymor y Cynulliad
hwn, cyn etholiadau nesaf y Cynulliad. 5. Yn credu y dylai'r
Ddeddf: a) ymgorffori yn y
gyfraith ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd; b) mandadu Llywodraeth
Cymru i gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob 5 mlynedd; c) rhoi dyletswydd
statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a
chymryd camau yn ei erbyn; d)
cyflwyno 'hawl i anadlu' lle y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu grwpiau
agored i niwed pan fydd rhai lefelau yn torri'r canllawiau a argymhellir. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bod lefelau
annerbyniol o lygredd aer yn parhau mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop. Yn gresynu at y ffaith
bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am
dymor hir yn cyfrannu at farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer
â 1,400 o bobl yng Nghymru. Yn nodi hefyd y gall
dod i gysylltiad â llygredd aer yn y tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth,
fod dod i gysylltiad â llygredd aer yn yr hirdymor yn cynyddu perygl
afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y
gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg
wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella. Yn croesawu camau
cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol
o 50mya; cyflwyno ymgyrch y Diwrnod Aer
Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru. Yn galw ar Lywodraeth
y DU a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac
anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella ansawdd aer. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnwys is-bwyntiau
newydd ym mhwynt 5: mynnu bod cerbydau
sy'n defnyddio diesel yn unig a phetrol yn unig yn cael eu dileu yn raddol
erbyn 2030; creu parthau aer glân
mewn trefi a dinasoedd; rhoi'r hawl i
gymunedau osod offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai; galluogi awdurdodau
lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd; llunio gynlluniau
cenedlaethol a rhanbarthol i leihau llygredd aer yng Nghymru; diwygio'r gyfraith
cynllunio i'w gwneud yn ofynnol y rhoddir mwy o bwys ar effaith llygredd aer yn
y system gynllunio. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.57 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio NDM7133 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi mai yng
Nghymru y mae peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU a bod rhai ardaloedd wedi
torri rheoliadau'r UE ers sawl blwyddyn, gan arwain at gymryd Llywodraeth Cymru
i'r llys am ddiffyg gweithredu. 2. Yn gresynu bod tua 2,000 o
bobl yn marw'n gynnar bob blwyddyn (6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru)
o ganlyniad i ansawdd aer gwael. 3. Yn nodi ymhellach bod
llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol ar yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a
chanser yr ysgyfaint, ac nad oes dealltwriaeth lawn eto o effeithiau hirdymor
ansawdd aer gwael. 4. Yn galw ar y Cynulliad hwn i
basio bil aer glân, a'i ddeddfu, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, cyn etholiadau
nesaf y Cynulliad. 5. Yn credu y dylai'r Ddeddf: a) ymgorffori yn y gyfraith
ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd; b) mandadu Llywodraeth Cymru i
gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob 5 mlynedd; c) rhoi dyletswydd statudol ar
awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a chymryd camau yn
ei erbyn; d) cyflwyno 'hawl i anadlu' lle
y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu grwpiau agored i niwed pan fydd rhai
lefelau yn torri'r canllawiau a argymhellir.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn parhau
mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop. Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu
bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at
farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng
Nghymru. Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer yn y
tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd aer
yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr
ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill
ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella. Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan
gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya; cyflwyno ymgyrch y Diwrnod
Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i
ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella
ansawdd aer. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7133 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn
parhau mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop. 2. Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn
awgrymu bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at
farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng
Nghymru. 3. Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer
yn y tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd
aer yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr
ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill
ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella. 4. Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan
gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya; cyflwyno ymgyrch y Diwrnod
Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i
ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella
ansawdd aer.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cyfiawnder Hinsawdd NDM7137 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r alwad
gan Greta Thunberg ac ymgyrchwyr ieuenctid o Fridays for Future, i oedolion
ymuno â myfyrwyr a phobl ifanc sydd ar streic ar 20 Medi 2019 i fynnu
cyfiawnder hinsawdd. 2. Yn cymeradwyo'r rôl
y mae myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran
dod ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd. 3. Yn cefnogi'r
streiciau a'r gwrthdystiadau a drefnwyd gan bobl ifanc ac oedolion ar 20 Medi
2019. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Yn cymeradwyo'r rôl y
mae pobl ifanc wedi'i chwarae o ran llywio'r agenda newid yn yr hinsawdd, fodd
bynnag, yn credu nad streic a phobl
ifanc yn colli ysgol yw'r ateb. Yn cydnabod y pryder
cyhoeddus eang ynghylch cynhesu byd-eang a bod cyfyngu ar y newid yn yr
hinsawdd yn gofyn am ymdrech a chydweithrediad rhyngwladol, ac yn nodi'r camau canlynol a gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon o'r
fath: a) y rôl flaengar y
mae Llywodraeth y DU wedi'i chwarae o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
a symud i dwf glân; b) bod y DU wedi
lleihau allyriadau dros 40 y cant ers 1990 tra'n tyfu'r economi gan fwy na dwy
ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl arall yn y
G7; c) bod Llywodraeth y
DU wedi gosod targed sero net â rhwymedigaeth
gyfreithiol i roi terfyn ar gyfraniad y DU i gynhesu byd-eang yn gyfan gwbl
erbyn 2050. Yn nodi datganiad
argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru ond yn gresynu at fethiant y llywodraeth i
gyflwyno cyfres gynhwysfawr o fesurau sy'n addas ar gyfer argyfwng o'r fath. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi
yn ei le: Yn cefnogi galwad
mudiad Fridays for Future ar gyfer holl wleidyddion ac arweinwyr busnes i
wrando ar bobl ifanc oherwydd bod angen eu penderfynoldeb, eu syniadau a’u
hymdrechion ar frys i sicrhau Cymru carbon isel. Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn croesawu’r ymrwymiad
gan Lywodraeth Cymru i roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn
etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021, gan roi llais cryfach i’r bobl
ifanc hynny ynghylch sut y mae Cymru’n wynebu’r her newid hinsawdd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.55 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7137 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r alwad gan
Greta Thunberg ac ymgyrchwyr ieuenctid o Fridays for Future, i oedolion ymuno â
myfyrwyr a phobl ifanc sydd ar streic ar 20 Medi 2019 i fynnu cyfiawnder
hinsawdd. 2. Yn cymeradwyo'r rôl y mae
myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran dod
ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd. 3. Yn cefnogi'r streiciau a'r
gwrthdystiadau a drefnwyd gan bobl ifanc ac oedolion ar 20 Medi 2019.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn cymeradwyo'r rôl y mae pobl ifanc wedi'i chwarae o ran
llywio'r agenda newid yn yr hinsawdd, fodd bynnag, yn credu nad streic a phobl
ifanc yn colli ysgol yw'r ateb. Yn cydnabod y pryder cyhoeddus eang ynghylch cynhesu
byd-eang a bod cyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd yn gofyn am ymdrech a
chydweithrediad rhyngwladol, ac yn nodi'r camau canlynol a gymerwyd i fynd i'r
afael â phryderon o'r fath: a) y rôl flaengar y mae Llywodraeth y DU wedi'i chwarae o
ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a symud i dwf glân; b) bod y DU wedi lleihau allyriadau dros 40 y cant ers
1990 tra'n tyfu'r economi gan fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau
fesul person nag unrhyw genedl arall yn y G7; c) bod Llywodraeth y DU wedi gosod targed sero net â
rhwymedigaeth gyfreithiol i roi terfyn ar gyfraniad y DU i gynhesu byd-eang yn
gyfan gwbl erbyn 2050. Yn nodi datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru ond
yn gresynu at fethiant y llywodraeth i gyflwyno cyfres gynhwysfawr o fesurau
sy'n addas ar gyfer argyfwng o'r fath. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cefnogi galwad mudiad Fridays for Future ar gyfer holl
wleidyddion ac arweinwyr busnes i wrando ar bobl ifanc oherwydd bod angen eu
penderfynoldeb, eu syniadau a’u hymdrechion ar frys i sicrhau Cymru carbon
isel. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant
2. Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r
bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol
Cymru yn 2021, gan roi llais cryfach i’r bobl ifanc hynny ynghylch sut y mae
Cymru’n wynebu’r her newid hinsawdd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant
3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7137 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn cefnogi galwad mudiad
Fridays for Future ar gyfer holl wleidyddion ac arweinwyr busnes i wrando ar
bobl ifanc oherwydd bod angen eu penderfynoldeb, eu syniadau a’u hymdrechion ar
frys i sicrhau Cymru carbon isel. 2. Yn cymeradwyo'r rôl y mae
myfyrwyr a phobl ifanc wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran dod
ag argyfwng yr hinsawdd i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd. 3. Yn
croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac
17 oed erbyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021, gan roi llais
cryfach i’r bobl ifanc hynny ynghylch sut y mae Cymru’n wynebu’r her newid
hinsawdd.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Tâl ac amodau gweithwyr y GIG NDM7138 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at gynigion
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymestyn sifftiau nyrsio heb dâl ar
gyfer dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd. 2. Yn ofni colli
ewyllys da ymysg staff sydd eisoes yn gweithio drwy eu cyfnodau egwyl neu sydd
ar alwad ar eu wardiau neu eu hunedau. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddiogelu tâl ac amodau gweithwyr rheng flaen o fewn y GIG
drwy sicrhau bod y cynnig atchweliadol hwn yn cael ei ddiddymu. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn gwerthfawrogi
gweithlu’r GIG a’n trefniadau gwaith partneriaeth gymdeithasol. Yn disgwyl i holl
gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur
a chyrff cynrychiadol eraill ar newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnwys pwynt 2 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu ymhellach
bod nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd o ganlyniad i straen a phroblemau'n
ymwneud ag iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014. Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn mynegi pryder na
fydd y cynnig hwn o gymorth i forâl y staff ac y bydd yn gosod disgwyliadau
ychwanegol ar nyrsys a gweithwyr gofal iechyd i aberthu eu cyfnodau egwyl
cytundebol. Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, dileu
'drwy sicrhau' a rhoi yn ei le: 'ac i'r Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymyrryd er mwyn sicrhau' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.25 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7138 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at gynigion
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymestyn sifftiau nyrsio heb dâl ar
gyfer dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd. 2. Yn ofni colli ewyllys
da ymysg staff sydd eisoes yn gweithio drwy eu cyfnodau egwyl neu sydd ar alwad
ar eu wardiau neu eu hunedau. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddiogelu tâl ac amodau gweithwyr rheng flaen o fewn y GIG drwy sicrhau
bod y cynnig atchweliadol hwn yn cael ei ddiddymu.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau
gwaith partneriaeth gymdeithasol. Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu
ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar
newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7138 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau
gwaith partneriaeth gymdeithasol. 2. Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio,
ymgysylltu ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol
eraill ar newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff.
Derbyniwyd y
cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.46 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7135 Rhianon
Passmore (Islwyn) Hapus i Redeg Creu Cymru egnïol lle
mae dinasyddion yn rhedeg, yn cerdded neu'n loncian bob dydd i wella eu
llesiant corfforol, emosiynol a meddyliol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.51 NDM7135 Rhianon Passmore (Islwyn) Hapus i Redeg Creu Cymru egnïol
lle mae dinasyddion yn rhedeg, yn cerdded neu'n loncian bob dydd i wella eu
llesiant corfforol, emosiynol a meddyliol. |