Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 224(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.18 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf.. Atebwyd cwestiynau 1 a 2 gan y Dirprwy Weinidog. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.12 Gwnaeth Hefin David ddatganiad am - Gwerth theatr
gymunedol leol ( Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am – Coffáu 20
mlynedd ers sefydlu Cangen Llynges Fasnachol Casnewydd. Gwnaeth Llyr Gruffydd
ddatganiad am - Dathlu llwyddiant Richard Jones o Gorwen ar ennill Pencampwriaeth
Gneifio’r Byd yn Ffrainc yn ddiweddar. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol – Blaenoriaethau Brexit Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.17 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Ni chyflwynwyd cynigion Cofnodion: Ni chyflwynwyd cynigion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018 - 19 NDM7126 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006: Yn nodi'r Adroddiad
Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd
gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.02 NDM7126 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006: Yn nodi'r Adroddiad
Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar yr adroddiad ar y cyd rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a'r Pwyllgor Cyllid: Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol NDM7119 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad ar y
cyd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, sef 'Asesu effaith penderfyniadau
cyllidebol', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2019. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.19 NDM7119 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad ar y
cyd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, sef 'Asesu effaith penderfyniadau
cyllidebol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2019. Cyd-gyflwynwyr Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Awtistiaeth NDM7124 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi
adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar 1
Ebrill 2019. 2. Yn nodi ymhellach y
datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019. 3. Yn gresynu bod
Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn rhoi’r Bil Awtistiaeth (Cymru) ar
waith. 4. Yn cydnabod er bod
adroddiad blynyddol y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r
Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu
gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod diffyg mesurau canlyniadau o fewn yr
adroddiad ar gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r
Sbectrwm Awtistig 2016. 5. Yn cydnabod, er bod
rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru,
bod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r cymorth a gynigir sy'n effeithio ar
ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth awtistiaeth
integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi awtistiaeth o ansawdd uchel drwy: a) darparu cymorth a
gwasanaethau digonol i bobl awtistig a'u teuluoedd sy'n adlewyrchu'r ystod eang
o anghenion a allai fod ganddynt; sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni
disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais awtistiaeth drwy fynd y tu hwnt i
ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso awtistiaeth; b) datblygu system
fonitro glir a chyson er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar
gyfer pobl awtistig; c) egluro'r trefniadau
ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r
cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr
gwasanaethau; d) rhoi'r gwasanaeth
awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a
chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan
gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth; e) gweithio i
weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig cyn
gynted ag y bo'n ymarferol. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny: Yn credu, er mwyn i
bobl ag awtistiaeth gael y gwasanaethau gorau posibl, fod angen ystyried
niwroamrywiaeth fel mater cydraddoldeb ynddo'i hun, a bod cael ymennydd nad
yw'n niwronodweddiadol yn dod yn nodwedd warchodedig o dan ddeddfwriaeth
cydraddoldebau, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb yn unol â hynny. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwynt 3 ac
ailrifo’n unol â hynny. Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr) Ym mhwynt 6, dileu
popeth ar ôl is-bwynt a, a rhoi yn ei le: adeiladu ar y gwaith monitro
sy’n bodoli o fewn gwasanaethau er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar
ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig; egluro'r trefniadau
ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r
cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, unwaith y byddwn wedi cael yr
eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â’n
setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i hynny; rhoi'r gwasanaeth
awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a
chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan
gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth; gweithio gyda
phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer
Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.03 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7124 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth
Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r
Sbectrwm Awtistig ar 1 Ebrill 2019. 2. Yn nodi ymhellach y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019. 3. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn rhoi’r Bil
Awtistiaeth (Cymru) ar waith. 4. Yn cydnabod er bod adroddiad blynyddol y Cynllun Gweithredu Strategol
ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn amlinellu dull
Llywodraeth Cymru o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod diffyg
mesurau canlyniadau o fewn yr adroddiad ar gyflawni’r Cynllun Gweithredu
Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2016. 5. Yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella
gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r
cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y
gwasanaeth awtistiaeth integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi
awtistiaeth o ansawdd uchel drwy: a) darparu cymorth a gwasanaethau digonol i bobl awtistig a'u teuluoedd
sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt; sicrhau bod y
gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais awtistiaeth
drwy fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso awtistiaeth; b) datblygu system fonitro glir a chyson er mwyn gallu adrodd yn fwy
effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig; c) egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth
awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth
2021, er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau; d) rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i
gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn
y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm
Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth; ac e) gweithio i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth
Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r
Sbectrwm Awtistig cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny: Yn credu, er mwyn i bobl
ag awtistiaeth gael y gwasanaethau gorau posibl, fod angen ystyried
niwroamrywiaeth fel mater cydraddoldeb ynddo'i hun, a bod cael ymennydd nad
yw'n niwronodweddiadol yn dod yn nodwedd warchodedig o dan ddeddfwriaeth
cydraddoldebau, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb yn unol â hynny. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwynt 3 ac
ailrifo’n unol â hynny. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr) Ym mhwynt 6, dileu
popeth ar ôl is-bwynt a, a rhoi yn ei le: adeiladu ar y gwaith
monitro sy’n bodoli o fewn gwasanaethau er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol
ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig; egluro'r trefniadau
ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r
cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, unwaith y byddwn wedi cael yr
eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â’n
setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i hynny; rhoi'r gwasanaeth
awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i gefnogi pobl awtistig a
chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn y Diweddariad o’r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan
gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth; gweithio gyda
phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer
Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7124 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth
Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r
Sbectrwm Awtistig ar 1 Ebrill 2019. 2. Yn nodi ymhellach y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019. 3. Yn cydnabod er bod adroddiad blynyddol y Cynllun Gweithredu Strategol
ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn amlinellu dull
Llywodraeth Cymru o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod diffyg
mesurau canlyniadau o fewn yr adroddiad ar gyflawni’r Cynllun Gweithredu
Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2016. 4. Yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella
gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r
cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y
gwasanaeth awtistiaeth integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi
awtistiaeth o ansawdd uchel drwy: a) darparu cymorth a gwasanaethau digonol i bobl awtistig a'u teuluoedd
sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt; sicrhau bod y
gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais awtistiaeth
drwy fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso awtistiaeth; b) adeiladu ar y gwaith monitro sy’n bodoli o fewn gwasanaethau er mwyn
gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig; c) egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth awtistiaeth
integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth 2021, unwaith y
byddwn wedi cael yr eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi wrth Lywodraeth y
DU ynglŷn â’n setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i hynny; d) rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull ehangach i
gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a amlinellir yn
y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm
Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth; e) gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu argymhellion y
Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu
Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.07 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: |