Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 223(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Gwnaeth y Llywydd, ar ran y Cynulliad, ddatganiad yn
estyn cydymdeimladau â theulu a chyfeillion y cyn-Aelod Rod Richards. |
||||||||||
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Bydd
y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn
hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Atebodd
y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip y 6 chwestiwn yn y 15 munud olaf o’r sesiwn
hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.50 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.16 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Rhagolygon y Dyfodol ar gyfer Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.33 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Parodrwydd am Brexit Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 17.25 |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 NDM7120 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017
(Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin
2019. Dogfennau Ategol Memorandwm
Esboniadol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.14 NDM7120 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017
(Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25
Mehefin 2019. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019 NDM7121 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru)
(Diwygio) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin
2019. Dogfennau Ategol Memorandwm
Esboniadol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.19 NDM7121 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru)
(Diwygio) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25
Mehefin 2019. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) NDM7122 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau
Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae copi o’r Bil
i’w weld ar wefan Senedd y DU: https://services.parliament.uk/Bills/2017-19/nondomesticratingpubliclavatories.html Dogfennau Ategol Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.24 NDM7122 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig
(Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Dadl ar Gyfnod 4 y Bil Deddfwriaeth (Cymru) NDM7123 - Jeremy
Miles (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo'r Bil
Deddfwriaeth (Cymru). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.26 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7123 - Jeremy Miles (Castell-nedd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo'r Bil
Deddfwriaeth (Cymru). Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 18.31 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |