Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)

Mae hwn yn fater lle y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Cyflwynwyd y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 18 Mehefin 2019.

 

Mae'r Bil yn ceisio dileu'r rhwymedigaeth ardrethi o doiledau cyhoeddus annibynnol.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 25 Mehefin 2019 (PDF, 101KB).

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/07/2019