Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 152(v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 a 9 gan Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi terfyn ar lawdriaeth sy'n defnyddio rhwyll yn y GIG, yn sgil cyhoeddiad am roi terfyn ar y llawdriniaethau hyn yn Lloegr?

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed yn gynharach yr wythnos hon?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.09

[Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol]

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi terfyn ar lawdriniaeth sy'n defnyddio rhwyll yn y GIG, yn sgil cyhoeddiad am roi terfyn ar y llawdriniaethau hyn yn Lloegr?

[Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol]

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed yn gynharach yr wythnos hon?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

Gwnaeth Andrew R.T Davies ddatganiad ar dathlu llwyddiannau Ron a Margaret Harries a sicrhaodd gofadail ym Mae Caerdydd i gydnabod gwaith y gweithwyr pyllau, llongau, trên a dociau.

(5 munud)

5.

Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â'r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

NDM6767 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18 - Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.40

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru

NDM6766 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect CylchfforddCymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.41

NDM6766 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

 Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal

NDM6765 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

Dogfen Ategol
Llythyr gan Lywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.20

NDM6765 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell?

NDM6768 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Ardaloedd Menter: Mynd ymhell', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Gorffennaf 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.17

NDM6768 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Ardaloedd Menter: Mynd ymhell', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2018.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Gorffennaf 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Ni chafwyd cyfnod pleidleisio

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM6763 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru

Cofnodion:

Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Dirprwy Lywydd am 17.57 oherwydd anawsterau technegol, gan ailgynnull am 18.03.

Dechreuodd yr eitem am 18.03

NDM6763 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru.