Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 104(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-5 a 7–8. Atebwyd cwestiynau 2, 3 a 4 gan Weinidog yr Amgylchedd. Ni
ofynnwyd cwestiwn 6. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.17 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 6 a 7 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y
Cabinet a’r Gweinidog Tai ac Adfywio ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Russell George
(Sir Drefaldwyn): O ystyried y cyhoeddwyd gorwariant o 23 y cant ar y
prosiect i ddeuoli'r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun, a wnaiff Ysgrifennydd y
Cabinet gadarnhau o ble y daw'r adnoddau ychwanegol i gyllido hyn? Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y
llifogydd diweddar ar rwydwaith ffyrdd Ynys Môn? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Darren Millar
(Gorllewin Clwyd): Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi
i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i honiadau o gam-drin ar Ynys Bŷr? Gofyn
i Brif Weinidog Cymru Leanne Wood
(Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i
Gymru o asesiadau effaith Brexit Llywodraeth y DU ar ôl iddynt gael eu rhyddhau
ddydd Mawrth? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth Russell George
(Sir Drefaldwyn): O ystyried y cyhoeddwyd gorwariant o 23 y cant
ar y prosiect i ddeuoli'r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun, a wnaiff Ysgrifennydd y
Cabinet gadarnhau o ble y daw'r adnoddau ychwanegol i gyllido hyn? Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am
effaith y llifogydd diweddar ar rwydwaith ffyrdd Ynys Môn? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol (atebwyd gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant) Darren Millar
(Gorllewin Clwyd): Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet
wedi'i rhoi i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i honiadau o gam-drin ar Ynys Bŷr? Gofyn i Brif Weinidog Cymru (atebwyd gan Ysgrifennydd
y Cabinet dros Gyllid) Leanne Wood
(Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau
i Gymru o asesiadau effaith Brexit Llywodraeth y DU ar ôl iddynt gael eu
rhyddhau ddydd Mawrth? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Nid oedd unrhyw
ddatganiadau 90 eiliad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog NDM6573 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor
Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn unol â'r amodau hyn: 1. Y dylid cynnal cyfarfod
arbennig o'r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf i sefydlu ymchwiliad i'r honiadau a
wnaed gan gyn-aelodau a chynghorwyr i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â bwlio,
bygwth a thanseilio Gweinidogion. 2. Y dylai'r Pwyllgor sefydlu'r
canlynol fel rhan o'i ymchwiliad: a) pryd y gwnaed honiadau i'r
Prif Weinidog a/neu ei swyddfa; b) sut yr ymchwiliwyd i'r
honiadau; c) pa gamau a gymerwyd o
ganlyniad i unrhyw ymchwiliad; d) rôl y Prif Weinidog a'i swyddfa
yn y broses o ymdrin â'r materion hyn; ac e) dilysrwydd yr atebion a
roddwyd gan y Prif Weinidog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r
honiadau hynny. 3. Y dylai'r Pwyllgor gymryd
tystiolaeth gan dystion fel rhan o'i waith. 4. Y dylai'r Pwyllgor baratoi
adroddiad ar ei ganfyddiadau i'r Cynulliad erbyn hanner tymor mis Chwefror
2018. Cefnogwr: Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i nodi: 1. Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i benodi panel o
gynghorwyr annibynnol i ddarparu ffynhonnell allanol o gyngor arbenigol ar
ymddygiad Gweinidogol yn unol â’r hyn sy’n ofynnol o dan God y Gweinidogion,
fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd 2017; 2. Bod James Hamilton, sy’n gynghorydd annibynnol i
Lywodraeth yr Alban ar hyn o bryd, wedi ei benodi’n gynghorydd annibynnol i
Lywodraeth Cymru; 3. Bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio’i hun at James
Hamilton mewn perthynas â honiadau, a wnaed yn y pythefnos diwethaf, iddo
weithredu’n groes i God y Gweinidogion; a 4. Adroddiad terfynol y Cynghorydd Annibynnol pan fydd yn
cael ei gyhoeddi. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.41 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6573 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2,
yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn unol â'r amodau
hyn: 1. Y dylid cynnal cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf i
sefydlu ymchwiliad i'r honiadau a wnaed gan gyn-aelodau a chynghorwyr i
Lywodraeth Cymru mewn perthynas â bwlio, bygwth a thanseilio Gweinidogion. 2. Y dylai'r Pwyllgor sefydlu'r canlynol fel rhan o'i ymchwiliad: a) pryd y gwnaed honiadau i'r Prif Weinidog a/neu ei swyddfa; b) sut yr ymchwiliwyd i'r honiadau; c) pa gamau a gymerwyd o ganlyniad i unrhyw ymchwiliad; d) rôl y Prif Weinidog a'i swyddfa yn y broses o ymdrin â'r materion hyn;
ac e) dilysrwydd yr atebion a roddwyd gan y Prif Weinidog i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r honiadau hynny. 3. Y dylai'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth gan dystion fel rhan o'i waith. 4. Y dylai'r Pwyllgor baratoi adroddiad ar ei ganfyddiadau i'r Cynulliad
erbyn hanner tymor mis Chwefror 2018.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin
Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo’r Pwyllgor
Craffu ar Waith y Prif Weinidog i nodi: 1. Ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i benodi panel o gynghorwyr annibynnol i ddarparu ffynhonnell allanol o
gyngor arbenigol ar ymddygiad Gweinidogol yn unol â’r hyn sy’n ofynnol o dan
God y Gweinidogion, fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 23
Tachwedd 2017; 2. Bod James Hamilton,
sy’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth yr Alban ar hyn o bryd, wedi ei
benodi’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cymru; 3. Bod y Prif Weinidog
wedi cyfeirio’i hun at James Hamilton mewn perthynas â honiadau, a wnaed yn y
pythefnos diwethaf, iddo weithredu’n groes i God y Gweinidogion; a 4. Adroddiad terfynol y
Cynghorydd Annibynnol pan fydd yn cael ei gyhoeddi. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6573 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo’r Pwyllgor
Craffu ar Waith y Prif Weinidog i nodi: 1. Ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i benodi panel o gynghorwyr annibynnol i ddarparu ffynhonnell allanol o
gyngor arbenigol ar ymddygiad Gweinidogol yn unol â’r hyn sy’n ofynnol o dan
God y Gweinidogion, fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 23
Tachwedd 2017; 2. Bod James Hamilton,
sy’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth yr Alban ar hyn o bryd, wedi ei
benodi’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cymru; 3. Bod y Prif Weinidog
wedi cyfeirio’i hun at James Hamilton mewn perthynas â honiadau, a wnaed yn y
pythefnos diwethaf, iddo weithredu’n groes i God y Gweinidogion; a 4. Adroddiad terfynol y
Cynghorydd Annibynnol pan fydd yn cael ei gyhoeddi.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6521 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y
caiff ei wneud yn gywir mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o
leihau biliau tanwydd, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi
tanwydd. 2. Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o
osodiadau yn parhau mewn eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â
safonau gwaith da, a bod ceisio cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal
yn aml yn annigonol neu'n amhosibl ei gael. 3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU, Cavity Insulation Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol
ac iawndal ar gyfer gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau
ar gyfer diogelu defnyddwyr yn y dyfodol. Cefnogwyd
gan: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.43 NDM6521 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y caiff ei wneud yn gywir
mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o leihau biliau tanwydd, gan
gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd. 2.
Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o osodiadau yn parhau mewn
eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â safonau gwaith da, a bod ceisio
cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal yn aml yn annigonol neu'n
amhosibl ei gael. 3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cavity Insulation
Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol ac iawndal ar gyfer
gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau ar gyfer diogelu
defnyddwyr yn y dyfodol. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6594 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r rôl hanfodol y mae staff rheng flaen Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chwarae o ran cyflenwi gwasanaethau a
chefnogi cleifion ar draws gogledd Cymru. 2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015. 3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â mynd i'r
afael ag amseroedd aros cynyddol yng ngogledd Cymru a sefyllfa ariannol y bwrdd
iechyd wrth iddi waethygu. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) egluro pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r
ansicrwydd ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r
gwaith o gyflenwi gwasanaethau; b) cyhoeddi cynllun gweithredu clir i ddychwelyd y bwrdd
iechyd at ei statws arferol; ac c) egluro'r mesurau y bydd y bwrdd iechyd yn eu cymryd i
wella canlyniadau i gleifion. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i herio Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i’r afael â’i amseroedd aros a’i
sefyllfa ariannol annerbyniol. Yn nodi’r cymorth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei
roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithio i sefydlogi ac adfer ei
sefyllfa. Yn nodi y bydd y cynnydd yn cael ei adolygu gydag
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ddechrau mis Rhagfyr
ac y bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn ystyried mesurau pellach y bydd raid i
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymgymryd â hwy er mwyn gwella. Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd angen ehangu'r gweithlu'n sylweddol
er mwyn datrys y materion a wynebir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,
sy'n golygu y bydd angen cynyddu lefelau hyfforddiant nyrsio a meddygol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.33 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6594 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r rôl hanfodol y mae staff rheng flaen Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chwarae o ran cyflenwi gwasanaethau a chefnogi
cleifion ar draws gogledd Cymru. 2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015. 3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â mynd i'r afael ag
amseroedd aros cynyddol yng ngogledd Cymru a sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd
wrth iddi waethygu. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) egluro pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r ansicrwydd
ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r gwaith o
gyflenwi gwasanaethau; b) cyhoeddi cynllun gweithredu clir i ddychwelyd y bwrdd iechyd at ei
statws arferol; ac c) egluro'r mesurau y bydd y bwrdd iechyd yn eu cymryd i wella
canlyniadau i gleifion.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin
Abertawe) Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle: Yn nodi bod Llywodraeth
Cymru yn parhau i herio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i’r afael
â’i amseroedd aros a’i sefyllfa ariannol annerbyniol. Yn nodi’r cymorth
sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr i weithio i sefydlogi ac adfer ei sefyllfa. Yn nodi y bydd y cynnydd
yn cael ei adolygu gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio
Cymru ddechrau mis Rhagfyr ac y bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn ystyried
mesurau pellach y bydd raid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymgymryd â
hwy er mwyn gwella. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd
angen ehangu'r gweithlu'n sylweddol er mwyn datrys y materion a wynebir gan
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n golygu y bydd angen cynyddu
lefelau hyfforddiant nyrsio a meddygol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6594 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r rôl hanfodol y mae staff rheng flaen Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chwarae o ran cyflenwi gwasanaethau a chefnogi
cleifion ar draws gogledd Cymru. 2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015. 3. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru yn parhau i herio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i
fynd i’r afael â’i amseroedd aros a’i sefyllfa ariannol annerbyniol. 4. Yn nodi’r cymorth
sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr i weithio i sefydlogi ac adfer ei sefyllfa. 5. Yn nodi y bydd y
cynnydd yn cael ei adolygu gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa
Archwilio Cymru ddechrau mis Rhagfyr ac y bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn
ystyried mesurau pellach y bydd raid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
ymgymryd â hwy er mwyn gwella. 6. Yn credu y bydd
angen ehangu'r gweithlu'n sylweddol er mwyn datrys y materion a wynebir gan
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n golygu y bydd angen cynyddu
lefelau hyfforddiant nyrsio a meddygol.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6595 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi o ran cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar
ei chyllideb: a) nad oedd yn cynnwys cyhoeddiadau newydd penodol i
Gymru; a b) ei fod yn cynnwys adolygiadau ar i lawr ar gyfer twf
economaidd, cynhyrchiant a buddsoddiad mewn busnesau. 2. Yn credu bod y newidiadau disgwyliedig i grant bloc
Cymru yn adlewyrchu parhad mewn mesurau cyni aflwyddiannus yn hytrach nag
adnoddau newydd. 3. Yn gresynu nad oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y
gyllideb yn ymrwymo i roi unrhyw gefnogaeth i Forlyn Llanw Bae Abertawe. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gael
gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus. 5. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o bwerau i
wneud penderfyniadau ar fuddsoddiad mewn seilwaith ac economi Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnydd o £1.2 biliwn yng nghyllideb Cymru
dros bedair blynedd o ganlyniad i symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o
gyllideb y DU. 2. Yn nodi'r cynnydd o £67 miliwn yng nghyllideb Cymru o
ganlyniad i'r fframwaith cyllidol a drafodwyd rhwng Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU. 3. Yn nodi'r ymrwymiad yng nghyllideb y DU i ddechrau trafodaethau
ffurfiol ar gyfer bargen twf gogledd Cymru. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt 3 ac ychwanegu pwyntiau newydd: Yn galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap a
osodwyd ganddi ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac ariannu codiad cyflog i holl
weithwyr y sector cyhoeddus yn llawn. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli mwy o bwerau i
Gymru i wneud penderfyniadau am fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn cefnogi
economi Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.30 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6595 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi o ran cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar ei chyllideb: a) nad oedd yn cynnwys cyhoeddiadau newydd penodol i Gymru; a b) ei fod yn cynnwys adolygiadau ar i lawr ar gyfer twf economaidd,
cynhyrchiant a buddsoddiad mewn busnesau. 2. Yn credu bod y newidiadau disgwyliedig i grant bloc Cymru yn
adlewyrchu parhad mewn mesurau cyni aflwyddiannus yn hytrach nag adnoddau
newydd. 3. Yn gresynu nad oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y gyllideb yn
ymrwymo i roi unrhyw gefnogaeth i Forlyn Llanw Bae Abertawe. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gael gwared ar y cap ar
gyflogau’r sector cyhoeddus. 5. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o bwerau i wneud
penderfyniadau ar fuddsoddiad mewn seilwaith ac economi Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnydd o
£1.2 biliwn yng nghyllideb Cymru dros bedair blynedd o ganlyniad i symiau
canlyniadol Barnett sy'n deillio o gyllideb y DU. 2. Yn nodi'r cynnydd o
£67 miliwn yng nghyllideb Cymru o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol a drafodwyd
rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. 3. Yn nodi'r ymrwymiad
yng nghyllideb y DU i ddechrau trafodaethau ffurfiol ar gyfer bargen twf
gogledd Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin
Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt
3 ac ychwanegu pwyntiau newydd: Yn galw ar Lywodraeth y
DU i gael gwared ar y cap a osodwyd ganddi ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac
ariannu codiad cyflog i holl weithwyr y sector cyhoeddus yn llawn. Yn galw ar Lywodraeth y
DU i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru i wneud penderfyniadau am fuddsoddi mewn
seilwaith er mwyn cefnogi economi Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6595 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) 1. Yn nodi o ran cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar ei chyllideb: a) nad oedd yn cynnwys cyhoeddiadau newydd penodol i Gymru; a b) ei fod yn cynnwys adolygiadau ar i lawr ar gyfer twf economaidd,
cynhyrchiant a buddsoddiad mewn busnesau. 2. Yn credu bod y newidiadau disgwyliedig i grant bloc Cymru yn
adlewyrchu parhad mewn mesurau cyni aflwyddiannus yn hytrach nag adnoddau
newydd. 3. Yn gresynu nad oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y gyllideb yn
ymrwymo i roi unrhyw gefnogaeth i Forlyn Llanw Bae Abertawe. 4. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i gael gwared ar y cap a osodwyd ganddi ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac
ariannu codiad cyflog i holl weithwyr y sector cyhoeddus yn llawn. 5. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru i wneud penderfyniadau am fuddsoddi mewn
seilwaith er mwyn cefnogi economi Cymru.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Dechreuodd yr eitem am 19.37 Cododd Hefin David bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9 (iv) a (v)
ynghylch sylwadau a wnaeth Andrew RT Davies yn ystod Eitem 5, sef y sylwadau yn
Saesneg, ‘taken the shilling’, ynghylch Aelod arall. Dywedodd y Llywydd ei bod
yn glir iddi hi bod y sylw wedi ei wneud ac nad oedd cwestiynu gonestrwydd
cyd-Aelod yn y fath fodd yn dderbyniol. Ychwanegodd Andrew RT Davies nad oedd
ganddo ddim i’w ychwanegu at yr eglurhad a roddodd yn gynharach. Dywedodd y
Llywydd y byddai’n ymdrin â’r mater y tu allan i’r Siambr, ac y gallai
ddychwelyd ato pe bai angen. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.39 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6593 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Problem anweledig Cymru - effaith gymdeithasol hapchwarae Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.43 NDM6593 Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Problem anweledig Cymru
- effaith gymdeithasol hapchwarae |