Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22/11/17 i'w hateb ar
29/11/17
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Rhun ap Iorwerth Ynys Môn
1 OAQ51371 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Ynys Môn?
Gareth Bennett Canol De Cymru
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am y rhaglen gwympo coed yn Fforest Fawr yn Nhongwynlais?
Dai Lloyd Gorllewin De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefelau llygredd aer yng Ngorllewin De Cymru?
Mike Hedges Dwyrain Abertawe
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod mawndiroedd?
Neil Hamilton Canolbarth a Gorllewin Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen dileu TB buchol Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Steffan Lewis Dwyrain De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd mewn perthynas â nodyn cyngor technegol 1?
Mark Isherwood Gogledd Cymru
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau tai?
Mark Reckless Dwyrain De Cymru
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r gwahaniaeth rhwng prisiau bwyd y byd a phrisiau bwyd yr UE?
Sian Gwenllian Arfon
9 OAQ51353 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd mewn perthynas â nodyn cyngor technegol 20?
Lynne Neagle Torfaen
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo mynediad at fannau gwyrdd a pharciau yn Nhorfaen?
Paul Davies Preseli Sir Benfro
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant pysgota yng ngorllewin Cymru?
Simon Thomas Canolbarth a Gorllewin Cymru
12 OAQ51369 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i leihau faint o blastig a gaiff ei ddefnyddio?
Suzy Davies Gorllewin De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am statws cynlluniau datblygu lleol drafft mewn ceisiadau cynllunio presennol?
Lee Waters Llanelli
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu strategaeth ar amaethyddiaeth fanwl ar gyfer Cymru?
Julie Morgan Gogledd Caerdydd
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i fynd i'r afael â'r dioddefaint y mae defnyddio maglau yn ei achosi i anifeiliaid?
Leanne Wood Rhondda
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y tasglu ar gyfer y cymoedd yn Rhondda?
Neil McEvoy Canol De Cymru
2 OAQ51357 Datganodd yr Aelod fuddiant
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol yng Nghymru?
Adam Price Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer academi lywodraeth genedlaethol?
Dai Lloyd Gorllewin De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni Ein Cymoedd, Ein dyfodol yng Ngorllewin De Cymru?
Lee Waters Llanelli
Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o effaith awtomateiddio ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus?
Vikki Howells Cwm Cynon
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog a'u teuluoedd yng Nghymru?
Darren Millar Gorllewin Clwyd
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru?
Nick Ramsay Mynwy
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y bydd y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2018/19 yn diogelu gwasanaethau lleol?
Angela Burns Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gyngor y mae ei adran wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â chasgliadau sbwriel?
Julie Morgan Gogledd Caerdydd
Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod cynghorwyr yn fwy cynrychiadol o'u poblogaethau lleol?
Rhun ap Iorwerth Ynys Môn
11 OAQ51370 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda mudiadau ym Môn cyn i gredyd cynhwysol gael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2018?
David Rees Aberafan
Pa ddadansoddiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus os bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn mynd rhagddi â'i gynnig ar gyfer carchar ym Maglan?
Mark Isherwood Gogledd Cymru
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar y cyllid a ddyrennir i awdurdodau lleol yng Nghymru?
Adam Price Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i gynnwys canolfan strategol newydd sy'n cwmpasu cymoedd gorllewinol Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth fel rhan o dasglu'r cymoedd?
Rhianon Passmore Islwyn
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu rhentwyr preifat yng Nghymru?