Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 72(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/05/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Llywydd Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Cyhoeddodd
y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75 fod y Bil Treth Trafodiadau Tir a
Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) wedi cael cydsyniad brenhinol ar
y diwrnod hwnnw. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1–4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.16 Gofynnwyd
cwestiynau 1–4 a 6-11. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau Amserol Ni
chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw
Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.00 Gwnaeth Huw
Irranca-Davies ddatganiad ar Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái. Gwnaeth Dawn Bowden
ddatganiad ar Wrthryfel Merthyr a Dic Penderyn. Gwnaeth Vikki
Howells ddatganiad ar Ddiwrnod Newyn y Byd a'r defnydd o fanciau bwyd yng
Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Asesu ar gyfer Dysgu - dull gwahanol yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.05 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar God Erlyn Llywodraeth Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.37 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gohiriwyd tan 14 Mehefin |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6316 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn croesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd
yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru. 2.
Yn cydnabod yr angen am fargen dwf i ogledd Cymru a phwysigrwydd hyn ar gyfer
ffyniant yn y rhanbarth yn y dyfodol. 3.
Yn nodi pwysigrwydd datblygu bargeinion rhanbarthol tebyg ar gyfer cymunedau
gwledig yng nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod ein gwlad yn gweithio i
bawb. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Jane
Hutt (Bro Morgannwg): Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn croesawu rôl arwain Llywodraeth Cymru wrth iddi gydweithio â phartïon eraill
i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i
economi Cymru. 2.
Yn nodi’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi newid ei meddwl o safbwynt cefnogi’r
cynnig i ddileu tollau Pontydd Hafren. 3.
Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a
phartneriaid ar bob ochr i gyflawni bargen dwf i ogledd Cymru a sicrhau
cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i bob rhan o Gymru. 4.
Yn nodi’r ffaith mai un rhan yn unig o gynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu twf
economaidd a gwella’r system drafnidiaeth yng Nghymru yw dileu’r tollau. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys gwaith
sydd eisoes ar droed i ddatgarboneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, a hynny’n
unol â rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
cydnabod blaenoriaeth frys trydaneiddio Llinell Reilffordd Arfordir y Gogledd,
Prif Linell Reilffordd De Cymru a Llinellau Rheilffordd y Cymoedd a'u
pwysigrwydd o ran ffyniant eu rhanbarthau perthnasol yn y dyfodol. Gwelliant 3.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniad cadarnhaol o ran ariannu Morlyn
Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau twf economaidd yn yr ardal honno. Gwelliant 4.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyngor Sir Penfro i ddileu tollau ar
Bont Cleddau yn Sir Benfro fel hwb economaidd i'r ardal. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.57 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6316 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu ymrwymiad
Prif Weinidog y DU i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o
£100 miliwn i economi Cymru. 2. Yn cydnabod yr angen
am fargen dwf i ogledd Cymru a phwysigrwydd hyn ar gyfer ffyniant yn y
rhanbarth yn y dyfodol. 3. Yn nodi pwysigrwydd
datblygu bargeinion rhanbarthol tebyg ar gyfer cymunedau gwledig yng nghanolbarth
Cymru er mwyn sicrhau bod ein gwlad yn gweithio i bawb.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg): Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu rôl arwain Llywodraeth Cymru wrth
iddi gydweithio â phartïon eraill i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn
sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru. 2. Yn nodi’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi newid
ei meddwl o safbwynt cefnogi’r cynnig i ddileu tollau Pontydd Hafren. 3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid ar bob ochr i gyflawni bargen dwf
i ogledd Cymru a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i bob rhan
o Gymru. 4. Yn nodi’r ffaith mai un rhan yn unig o gynllun
Llywodraeth Cymru i gynyddu twf economaidd a gwella’r system drafnidiaeth yng
Nghymru yw dileu’r tollau. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys gwaith sydd eisoes ar
droed i ddatgarboneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, a hynny’n unol â
rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniad
cadarnhaol o ran ariannu Morlyn Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau twf
economaidd yn yr ardal honno. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyngor
Sir Penfro i ddileu tollau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro fel hwb economaidd i'r
ardal. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6316 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu rôl arwain Llywodraeth Cymru wrth
iddi gydweithio â phartïon eraill i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn
sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru. 2. Yn nodi’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi newid
ei meddwl o safbwynt cefnogi’r cynnig i ddileu tollau Pontydd Hafren. 3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid ar bob ochr i gyflawni bargen dwf
i ogledd Cymru a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i bob rhan
o Gymru. 4. Yn nodi’r ffaith mai un rhan yn unig o gynllun
Llywodraeth Cymru i gynyddu twf economaidd a gwella’r system drafnidiaeth yng
Nghymru yw dileu’r tollau. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys gwaith sydd eisoes ar
droed i ddatgarboneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, a hynny’n unol â
rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniad
cadarnhaol o ran ariannu Morlyn Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau twf
economaidd yn yr ardal honno. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â
Chyngor Sir Penfro i ddileu tollau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro fel hwb
economaidd i'r ardal.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl Plaid Cymru - Tynnwyd yn ôl |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6318 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru a'r ymrwymiad i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol,
Ynni Cymru. 2.
Yn nodi papur ymchwil gan Simon Thomas ar gynigion i greu Ynni Cymru. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ynni Cymru, a fydd yn cael ei redeg fel
cwmni di-ddifidend hyd braich o Lywodraeth Cymru, gan fuddsoddi elw mewn gwella
gwasanaethau a phrisiau i gleientiaid. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i greu rhwydwaith o gridiau ynni lleol. 'Rhaglen
yr Wrthblaid Plaid Cymru' Cyflwynwyd y
gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1.
Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol: a)
defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â phosibl; b)
lleihau’r ddibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil; ac c)
rheoli’r broses o drosglwyddo i economi carbon isel er mwyn cyflawni’r
manteision mwyaf posibl i Gymru a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed. 2.
Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi
Clyd, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o
safbwynt ysgogi a chefnogi’r trosglwyddiad cynnar i economi carbon isel. 3.
Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o safbwynt cefnogi gwaith arloesol ym maes
cynhyrchu ynni, fel cynllun peilot lleol a chymunedol Bethesda ar gyfer gwerthu
ynni, y cynllun dŵr o bwll glo ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chydweithio â
diwydiant a’r byd academaidd. 4.
Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd
cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn trafod cynigion ar gyfer cwmni ynni i Gymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.50 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6318 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Rhaglen yr
Wrthblaid Plaid Cymru a'r ymrwymiad i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni
Cymru. 2. Yn nodi papur ymchwil
gan Simon Thomas ar gynigion i greu Ynni Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sefydlu Ynni Cymru, a fydd yn cael ei redeg fel cwmni di-ddifidend hyd
braich o Lywodraeth Cymru, gan fuddsoddi elw mewn gwella gwasanaethau a
phrisiau i gleientiaid. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymchwilio i greu rhwydwaith o gridiau ynni lleol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i
wneud y canlynol: a) defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â
phosibl; b) lleihau’r ddibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o
danwyddau ffosil; ac c) rheoli’r broses o drosglwyddo i economi carbon
isel er mwyn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i Gymru a diogelu’r bobl sydd
fwyaf agored i niwed. 2. Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a gyllidir gan
Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd
Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o safbwynt ysgogi a chefnogi’r trosglwyddiad
cynnar i economi carbon isel. 3. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o safbwynt
cefnogi gwaith arloesol ym maes cynhyrchu ynni, fel cynllun peilot lleol a
chymunedol Bethesda ar gyfer gwerthu ynni, y cynllun dŵr o bwll glo ym
Mhen-y-bont ar Ogwr a chydweithio â diwydiant a’r byd academaidd. 4. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi
cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn trafod cynigion ar
gyfer cwmni ynni i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6318 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i
wneud y canlynol: a) defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â
phosibl; b) lleihau’r ddibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o
danwyddau ffosil; ac c) rheoli’r broses o drosglwyddo i economi carbon
isel er mwyn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i Gymru a diogelu’r bobl sydd
fwyaf agored i niwed. 2. Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a gyllidir gan
Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd
Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o safbwynt ysgogi a chefnogi’r trosglwyddiad
cynnar i economi carbon isel. 3. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o safbwynt
cefnogi gwaith arloesol ym maes cynhyrchu ynni, fel cynllun peilot lleol a
chymunedol Bethesda ar gyfer gwerthu ynni, y cynllun dŵr o bwll glo ym
Mhen-y-bont ar Ogwr a chydweithio â diwydiant a’r byd academaidd. 4. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi
cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn trafod cynigion ar
gyfer cwmni ynni i Gymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.29 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6315 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Amddiffyn
Cymru i'r genhedlaeth nesaf. Yr
heriau presennol sy'n wynebu Cymru, ac na welwyd erioed o'r blaen, gan gynnwys y
berthynas â gweddill y byd, anghydraddoldeb economaidd, a'r angen am weithredu
cadarnhaol ar frys o ran gwella canlyniadau i'r genhedlaeth nesaf. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.33 NDM6315 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Amddiffyn Cymru i'r
genhedlaeth nesaf. Yr heriau presennol
sy'n wynebu Cymru, ac na welwyd erioed o'r blaen, gan gynnwys y berthynas â
gweddill y byd, anghydraddoldeb economaidd, a'r angen am weithredu cadarnhaol
ar frys o ran gwella canlyniadau i'r genhedlaeth nesaf. |