NDM6317 - Dadl Plaid Cymru
NDM6317 - Dadl Plaid Cymru
NDM6317 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod gwerth lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru i economi Cymru.
2.
Yn nodi'r 5,383 o lofnodion ar ddeiseb i'r Cynulliad yn galw am ddiogelu
lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru.
3.
Yn nodi'r ymgyrch Achub Stryd Womanby sy'n galw am ddiogelu lleoliadau
cerddoriaeth fyw ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd.
4.
Yn galw am i'r egwyddor o asiant dros newid gael ei wneud yn rhan o gyfraith
cynllunio Cymru.
5.
Yn galw am i 'ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth' ddod
yn ddynodiad o dan gyfraith cynllunio Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/05/2017
Angen Penderfyniad: 24 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd